| Thursday, 8 May 2008 |
|
20:00 |
|
Theatre |
|
| Friday, 9 May 2008 |
|
20:00 |
|
Theatre |
|
Thu 8 + Fri 9 May 8pm Iau 8 + Gwe 9 Mai
Y cwmni a ddaeth a Shinani’n Siarad, Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys atoch, yn cyflwyno ei sioe newydd sbon. Portread o gyfnod tymhestlog canol oed pan fydd rhaid i fenyw wynebu herio’i chorff a’i henaid tra’n ceisio ymrafael â dirgelion bywyd a marwolaeth. Sut ma’ torri drwy’r haenau o gelwydd a chyfrinachedd er mwyn darganfod llwybrau newydd? Sut ma’ osgoi suddo o dan y don a diflannu o olwg y byd?
Sut ma’ dod i delerau â’i hangerdd goruwchnaturiol a’n bwysicaf oll, sut ma’ osgoi troi’n llofrudd!!
Mae Trafaelu ar y Tren Glas sy’n cael ei berfformio gan yr awdur Sharon Morgan a’i gyfarwyddo gan Catrin Edwards, yn ddarlun difyr a dwys o genhedlaeth sy’n gwrthod tyfu’n hen ac yn barchus cyn ymladd yr un frwydr olaf.
Sharon Morgan’s revealing drama focuses on the difficult period of middle age when a woman has to face physical challenges while attempting to unravel the mysteries of life and death.
£8/£5
|