20 Jul 2008 | 20 Gorff 2008
FAQ |  

Beth yw Chapter?
Mae Chapter yn ganolfan gelfyddydol yng Nghaerdydd – y mae’n gartref i 2 sinema, 3 gofod theatr, 2 far a chaffi, yn ogystal â gofodau ymarfer, stiwdios i artistiaid a swyddfeydd i dros 50 o denantiaid.

Mae Chapter yn cynnig rhaglen fywiog o ddigwyddiadau. I weld manylion y rhaglen gyfredol ewch i’r tudalennau sinema, oriel a theatr.

Mae Chapter wedi’i sefydlu fel elusen addysgol a chwmni cyfyngedig. Chapter yw un o ganolfannau celfyddydol mwyaf blaengar Ewrop ac mae gan y ganolfan enw da am greadigrwydd ac arloesedd. Mae Chapter yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol o bedwar ban byd, ac y mae ar flaen y gad o ran ei hymwneud â’r grym cynyddol sydd gan y diwydiannau creadigol i arwain prosesau o adfywio dinasoedd. Mae ein gwasanaethau i ddefnyddwyr anabl, sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, yn rhan o’r gwaith a wnawn wrth geisio hybu’r syniad bod y celfyddydau yn agored i bawb.

Pryd agorwyd Chapter?
Ar Ebrill 15fed 1971, am 3.45yp ar ei ben, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bwrdd Canolfan Gelfyddydau. Am fwy o wybodaeth am hanes Chapter dros y 30 mlynedd diwethaf, cliciwch fan hyn.

Faint o bobl sydd yn ymweld â Chapter bob blwyddyn?
Mae Chapter yn croesawu dros 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyflogi rhyw 70 o bobl. Mae tua 150 o bobl yn gweithio ar safle Chapter. R’yn ni’n cyflwyno dros 1,000 o ddigwyddiadau a sioeau bob blwyddyn.

Sut alla’ i brynu tocyn?
Gallwch brynu tocynnau unrhyw awr o’r dydd, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn, ar-lein.

Gallwch hefyd archebu dros y ffôn, drwy ffonio +44 (0)29 2030 4400, drwy ‘minicom’, ar +44 (0)29 2031 3430, drwy ffacs, ar +44 (0)29 20313431 neu drwy’r post, gan nodi’n glir y nifer a’r math o docynnau r’ych chi’u hangen, y sioe yr hoffech chi’i gweld, a manylion eich carden credyd (gan gynnwys y math o garden, enw deiliad y garden, rhif y garden, dyddiad terfyn y garden (“expiry”) a’r rhif cyhoeddi (“issue”)). Cofiwch gynnwys rhif ffôn neu ffacs hefyd, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi.

Fel arall, gallwch godi’ch tocynnau yn y ganolfan ei hun. Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 11.00yb - 8.30yh; ar ddydd Sadwrn, 2.00yp - 8.30yh; ac ar ddydd Sul 3.00yp - 8.30yh.

Llwythwch fap trwy glicio’r ddolen ar y dde.

Sut alla’ i wneud cwyn?
R’yn ni wastad yn croesawu’ch sylwadau a’ch adborth chi – os hoffech godi unrhyw bwynt ynglyn â’n gwasanaeth (boed da neu ddrwg!), e-bostiwch ni’n syth ac fe wnawn ni’n gorau i weithredu yn unol â’ch awgrymiadau. Fel arall, gallwch ffonio +44 (0)29 2031 1050.

 
what's new | beth sy'n newydd

The Edge of Love and Revelation return to Chapter The Edge of Love and Revelation return to Chapter
Two of our most popular recent events are back before the end of the month. | more
Online booking disruptions Online booking disruptions
Please bear with us... | more
Chapter Shop has moved... Chapter Shop has moved...
Come and visit us in our new home! | more
Redevelopment building works blog Redevelopment building works blog
Photos and updates of how things are moving along | more
Next Chapter News | Newyddion Nesaf Chapter Next Chapter News | Newyddion Nesaf Chapter
Keep up to date with all our redeveloopment and building works | more
Adopt a... Adopt a...
Support the next Chapter - here are just a few ways you can help | more
The next Chapter The next Chapter
Chapter’s Redevelopment Project - find out more and support Chapter | more
Family Friendly Chapter Family Friendly Chapter
Check out the latest Family Features and Carry on Screaming screenings! | more
July Calendar July Calendar
The month at a glance | more
July/August Magazine July/August Magazine
Now available to download | more
August Calendar August Calendar
Day by day through the month | more
CL1C Offers This Month CL1C Offers This Month
Earn extra points and get more for free! | more
Regular Classes at Chapter Regular Classes at Chapter
Timetable and contact information | more
Elite Chapter Membership scheme Elite Chapter Membership scheme
Improve your health AND support Chapter. | more
top | send to a friend | login

market road canton cardiff CF5 1QE | heol y farchnad treganna caerdydd CF5 1QE
admin | gweinyddiaeth +44(0)29 2031 1050  tickets | tocynnau +44(0)29 2030 4400  enquiry@chapter.org