Theatr Gen Byw Ail-ddangosiad: Macbeth

dydd Sul 23 Ebrill

Tocynnau

Theatr Gen Byw Ail-ddangosiad: Macbeth

Ail-ddangosiad (gydag is-deitlau Saesneg) 

Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter

Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;
Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.

Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.

... y mae pethau
Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.

£11/£8

theatr.cymru | @TheatrGenCymru | #MacbethThGC

Tocynnau

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×