Academi Ffilm BFI: Dechrau ym Myd Ffilm
Mae Academi Ffilm BFI yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, unrhyw le yng ngwledydd Prydain, i ddysgu mwy am ffilm a sut mae cael gyrfa yn y diwydiant sgrin. Mae ystod o gyrsiau hygyrch yn cynnig cyfleoedd i’r rhai sy’n dymuno cael blas hyd at bobl ifanc brwdfrydig sydd am fireinio eu sgiliau.
Fel rhan o Academi Ffilm BFI, mae Chapter yn falch o gyflwyno cyfres ledled Cymru o weithgareddau addysg ffilm ar wahanol safleoedd, gan gynnwys dangosiadau ffilm, cyrsiau ffilm, diwrnodau diwydiant, dosbarthiadau meistr, grantiau creu ffilmiau, a mentora un i un.
Mae’r gweithgarwch yma’n rhan o raglen Academi Ffilm BFI ledled Prydain, a chaiff ei gefnogi gan arian y Loteri Genedlaethol.
www.bfi.org.uk/bfi-film-academy-opportunities-young-creatives
