A dimly lit, full cinema. Two people are stood on stage in front of the cinema screen talking to the audience. Behind the speakers is a still image from the Barbie Movie.

Sinema

Rydyn ni’n arweinydd diwylliannol o ran sinema annibynnol yng Nghymru, ac yn helpu’r gynulleidfa i ymgysylltu â’r ffilmiau gorau o Gymru, gwledydd Prydain, ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n dathlu ffilm yn ei holl ffurfiau, gan gynnig profiad sinema cyfoethog sy’n blaenoriaethu’r profiad sinema sgrin fawr, gan ddangos ffilmiau ar ffilm 35mm yn ogystal â ffilmiau digidol wedi’u taflunio â laser.

Ochr yn ochr â ffilmiau newydd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sy’n helpu i ysbrydoli creadigrwydd ymhlith ein cynulleidfa ac i sicrhau bod ganddon ni i gyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r broses creu ffilmiau a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm ffyniannus yma yng Nghymru.

Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain a ffurfiwyd fel rhan o Sefydliad Ffilm Prydain: Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm. Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad.

Mae gan Sinema 1 lifft risiau, sy’n golygu bod mynediad di-risiau at y sgrin. Pan fyddwch yn y sinema, y rhes gefn o seddi yw’r seddi hygyrch pwrpasol, sy’n sicrhau mynediad di-risiau drwy gydol eich profiad sinema.

Mae gan Sinema 2 fynediad di-risiau, gyda llethr bach tuag at gefn y sinema. Yn y sinema yma, y rhes flaen o seddi yw’r seddi hygyrch pwrpasol, gan sicrhau mynediad di-risiau drwy gydol eich profiad sinema.

Cyflwyniad i Sinemâu Chapter
A close-up of red velvet cinema screen curtains.

Canllaw Ffilm

Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!

Lawrlwythwch yma

Digwyddiadau

Pori’r rhaglen, prynu tocynnau a chynllunio eich dydd gyda ni.

Learn More

Sinema | Cinema