Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Amdanom

Amdanom Ni

Amdanom Ni

Rydyn ni'n ganolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a'r celfyddydau cyfoes, ac yn hwb cymunedol pwysig sy'n croesawu bron i 800,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ers bron i hanner canrif, rydyn ni wedi cefnogi artistiaid a chynulleidfaoedd i ffynnu ac i gymryd risgiau.

Rydyn ni'n ganolfan ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith arloesol, cymhellol, o safon fyd-eang ac sy'n agored ac yn hygyrch i bawb. Mae ein horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o'r gwaith gorau yn y maes celf cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein gofodau theatr yn llwyfan ar gyfer gwaith arbrofol sy'n ysgogi'r meddwl. Mae ein sinemâu yn cynnig ffilmiau annibynnol a heriol, ochr yn ochr ag ystod o wyliau a digwyddiadau unigryw, ac rydyn ni'n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd, drwy Ganolfan Ffilm Cymru. Cefnogir hyn oll gyda rhaglen arloesol a chynhwysol o ddigwyddiadau ymgysylltu a dysgu, a chaffi bar mawr lle gall y gymuned leol gwrdd, bwyta, a mwynhau'r awyrgylch gyda phaned dda!

Mae ein rhaglen yn hyrwyddo artistiaid heddiw ac yn buddsoddi yn artistiaid yfory. Rydyn ni'n gweithio gydag ymarferwyr ar bob cam o'u gyrfa, yn cefnogi ac yn ysgogi cyfleoedd ar gyfer artistiaid newydd cyffrous, ynghyd â hyrwyddo gwaith y rhai sefydledig.

Rydyn ni'n cefnogi cymunedau creadigol Caerdydd a'r de mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae ganddon ni 38 o stiwdios i artistiaid, sy'n gartref i rai o bobl greadigol fwyaf dynamig Cymru, gan gynnwys cynyrchiadau ie ie, BAFTA Cymru, Cynyrchiadau Beryl, Ysgol Gerdd Caerdydd, Theatr Everyman, a'r Printhaus. Gallwch ddysgu mwy am ein Cymuned Greadigol yma

Mae ganddon ni hefyd ystod o ofodau rydyn ni'n eu cynnig i gefnogi artistiaid a chwmnïau lleol ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu prosiectau artistig.

Fydden ni ddim yn gallu gwneud dim o hyn heb gefnogaeth ein harianwyr a'n noddwyr, ein cymuned greadigol, ac wrth gwrs, hebddoch chi! Cofiwch barhau i ddod i'n gweld ni - mae pob ffilm rydych chi'n ei gwylio, pob paned rydych chi'n ei llymeitian, a phob perfformiad rydych chi'n ei fynychu, yn golygu bod modd i ni barhau i gyflwyno'r gorau sydd gan Gymru i'w gynnig i chi!

Er mwyn clywed sut gallwch ein helpu ni i ddatblygu'r daith yma ymhellach, ewch i'n tudalen Cefnogwch Ni.

Rhif elusen gofrestredig: 500813

Mae Chapter (Caerdydd) Cyf yn gwmni wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 01005570.

Swyddfa gofrestredig: Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE.

Swyddfa Docynnau: 029 2030 4400

Rhif TAW: 890977070 

Amdanom