Mae Chapter wedi ymrwymo i egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal a bydd yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd am swydd, unrhyw weithiwr, gwirfoddolwr, cwsmer na chydweithiwr arall yn dioddef rhagfarn yn ei erbyn ar unrhyw sail o gwbl. Mae'r polisi hwn yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth gyfredol parthed cyfle cyfartal.
Bydd y polisi cyfle cyfartal yn cael ei weithredu ymhob agwedd ar waith Chapter.
Bydd Chapter yn ceisio sicrhau bod yr Ymddiriedolwyr yn cynrychioli'r gymuned a'r defnyddwyr y mae'n nhw'n eu gwasanaethu. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y polisi cyfle cyfartal yn cael ei weithredu, ei fonitro a'i adolygu'n effeithiol.
Bydd Chapter yn sicrhau nad yw'r un ymgeisydd am swydd, na'r un gweithiwr neu wirfoddolwr, yn derbyn triniaeth sydd yn llai ffafriol nag un arall.
Mae Chapter yn ymrwymo i sicrhau gweithdrefnau recriwtio a dethol agored a, lle bynnag y byddo'n bosib, caiff pob swydd wag ei hysbysebu ac fe ddilynir prosesau teg a chyfiawn ar gyfer dewis rhestrau byrion ac ar gyfer cynnal cyfweliadau. Caiff y prosesau hyn eu monitro er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau'n gweithio mewn modd effeithiol a theg.
Bydd gweithwyr, gweithwyr llawrydd a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'r sefydliad yn cael gwybod am y polisi cyfle cyfartal ac yn derbyn hyfforddiant ar faterion sy'n ymwneud â chyfle cyfartal, yn ôl yr angen. Bydd amodau gwasanaeth, lle bydd hynny'n briodol, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried amodau gwaith hyblyg; darpariaeth ar gyfer addasiadau rhesymol y bydd eu hangen er mwyn galluogi aelodau o staff anabl i gyflawni eu dyletswyddau; a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd. Gweler y Llawlyfr Staff am fwy o fanylion.
Bydd Chapter hefyd yn sicrhau bod anghenion newidiol a datblygol staff a gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod ac y gwneir addasiadau priodol i amodau gwaith a/neu yr hyfforddiant a ddarperir, yn ôl yr angen.
Mae Chapter yn gweithredu gweithdrefnau ar gyfer disgyblu a chyflwyno chwynion ac mae manylion y rhain i'w gweld yn y llawlyfr staff. Mae gweithredoedd aflonyddol neu wahaniaethu ar sail tarddiad ethnig neu genedlaethol, ar sail crefydd, cred wleidyddol, rhyw, statws priodasol neu statws rhiant, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, oedran neu anabledd yn droseddau a fydd yn esgor ar broses ddisgyblu.
Mae manylion pellach am weithdrefnau cyflogaeth cyfle cyfartal i'w gweld yn y Llawlyfr Staff.
Nod canolfan Chapter yw sicrhau bod ei gwasanaethau a'i rhaglenni yn hygyrch i ystod mor eang o'r cyhoedd â phosib ac, er mwyn cyflawni hyn, bydd y ganolfan yn rhoi ar waith fesurau penodol i ddileu rhwystrau a allai atal cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, aelodau a defnyddwyr rhag cael mynediad cyfartal i weithgareddau'r sefydliad. Bydd y rhain yn cynnwys:
Caiff artistiaid eu comisiynu trwy wahoddiad ag eithrio pan hysbysebir proses ddethol agored. Pan fydd proses ddethol agored ar waith, byddwn yn sicrhau bod pob rhan o'r broses yn ystyriol o'n polisi cyfle cyfartal, o'r hysbysebion gwreiddiol hyd at y broses ddethol ei hun.
Ym mhob achos yn ddieithriad, gwneir dewisiadau'r rhaglen ar sail teilyngdod ac ansawdd artistig, fel y'u pennir gan dîm rhaglen Chapter.