Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Cymuned Creadigol

Rydyn ni’n falch o fod yn gartref i gymuned ddeinamig o artistiaid a chwmnïau preswyl. Mae’r partneriaid yma’n cynhyrchu rhai o weithiau mwyaf cyffrous Prydain, yn amrywio o animeiddio a dylunio graffig, ffilm a theledu i theatr a chelf weledol. Rydyn ni’n aml yn cydweithio gyda nhw i gyflwyno a chynhyrchu gwaith comisiwn, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yma yn Chapter.  

Ein stiwdios 

Mae ganddon ni 43 stiwdio, sy’n gartref i dros 50 o breswylwyr, ac yn aml fe welwch lawer o breswylwyr ein stiwdios yn cwrdd yn y caffi bar neu’n dod at ei gilydd yn ein digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n cymuned greadigol anhygoel a’ch bod am ddysgu mwy, cysylltwch â Myles Leadbeatter myles.leadbeatter@chapter.org. Cofiwch fod rhestr aros fer fel arfer, felly allwn ni ddim gwarantu y bydd stiwdio ar gael yn syth bob amser.