Rydyn ni’n falch iawn o’n gardd gymunedol hyfryd, ac yn ddiolchgar am sgiliau a chefnogaeth ein garddwyr gwirfoddol. Gobeithio gallwch chi ymlwybro ychydig, gan fwynhau ein mannau gwyrdd, a hyd yn oed pigo ffrwyth neu lysieuyn ar yr adeg iawn!
Mae llawer o gyfleoedd i’n helpu ni yn yr ardd – os ydych chi wrth eich boddau'n dyfrio a chwynnu, bydd lle arbennig i chi yn ein calonnau! Ein hamseroedd galw heibio i arddio yw nos Lun 6.30-7.30pm a bore Iau 9.30-11am.
Rydyn ni'n gweithio hefyd gyda llawer o ysgolion a grwpiau lleol sy'n dod i dorchi llewys (mae casgliad gwych o offer garddio i blant ganddon ni), i ddysgu am blannu a gofalu am hadau a blodau, neu i ddysgu am ein gwenyn (mae gwisgoedd gwenyn i blant ganddon ni hefyd).
Cafodd ein gardd gymunedol ei chreu gyda chariad, a gweledigaeth ac ysbrydoliaeth Gerddi Cymunedol Treganna. Mae llawer o wybodaeth am yr ardd ar eu gwefan www.cantoncommunitygardens.co.uk/hafan neu eu tudalen Facebook.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch drwy info@cantoncommunitygarden.co.uk neu ffoniwch ein garddwr cymunedol, Roger Phillips, ar 07704 259 159.