Yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae dyletswydd gyfreithiol arnom ni i ddiogelu unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu gennych, i fod yn eglur am y dibenion rydym yn ei ddefnyddio a'i gwneud yn haws i chi ddewis peidio â derbyn gohebiaeth gennym ar unrhyw adeg. Yn y cyd-destun hwn, mae data personol yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth y mae modd adnabod unigolyn ohoni, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Mae'r dudalen hon yn egluro sut rydym yn diogelu a pharchu'r data rydym yn ei gasglu gennych chi.
Pynciau:
Pa ddata personol ydyn ni'n ei gasglu amdanoch?
Pan rydych chi'n prynu tocynnau gennym, neu pan rydych yn gwneud archeb am gynnyrch neu wasanaeth gan Chapter megis aelodaeth Ffrindiau neu nwyddau o'r siop, rydym yn casglu data personol fel eich enw, eich cyfeiriad post, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost. Caiff manylion rhifau cardiau talu eu cadw ar weinyddwr diogel. Rydym hefyd yn casglu data personol pan rydych yn cwblhau arolygon cwsmeriaid yn wirfoddol, yn darparu adborth, yn archebu lle ar weithdai a digwyddiadau am ddim, ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau. Caiff gwybodaeth am ddefnydd o'r wefan ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis.
Sut byddwn ni'n defnyddio eich data personol?
Rydym yn casglu data personol amdanoch chi er mwyn prosesu archebion rydych yn eu gwneud, i'ch galluogi chi i ddefnyddio gwasanaethau Chapter ac i roi gwybod i chi os oes unrhyw newidiadau i'n digwyddiadau neu wasanaethau (er enghraifft newid i amseroedd neu i ganslo digwyddiad yn achlysurol iawn).
Byddwn hefyd yn casglu data personol amdanoch chi, os byddwch yn cytuno, er mwyn anfon e-byst atoch chi am ddigwyddiadau a gwasanaethau eraill Chapter rydym yn credu a fydd o ddiddordeb i chi. Dim ond os ydych chi wedi rhoi caniatâd pan ofynnwyd i chi ar y pwynt cyswllt cyntaf y byddwn ni'n gwneud hyn.
Defnyddir data personol a ddarparwyd yn wirfoddol drwy arolygon cwsmeriaid a ffurflenni adborth i lywio cynlluniau rhaglenni yn y dyfodol a gwella gwasanaethau. Caiff hefyd ei rannu â rhanddeiliaid o dro i dro, ac mae weithiau'n ofynnol fel amod gan gyllidwyr. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r holl ddata yn ddi-enw, ac ni rennir unrhyw ddata y gellir adnabod unigolyn ohono. Pan gynhelir cystadleuaeth, cesglir data personol at y diben penodol hwnnw a'i ddinistrio ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben.
Os ydych yn rhoi caniatâd, byddwn yn defnyddio eich data personol i roi gwybod i chi am weithgareddau Codi Arian a gweithgareddau dewisol eraill y mae Chapter yn rhan ohonynt.
Ni fyddwn yn rhannu eich data personol â chwmnïau allanol heblaw'r rheini a ddewiswyd i brosesu manylion ein cwsmeriaid at ddibenion gwerthu tocynnau (Patronbase), hurio ystafelloedd (Artifax), a gwerthu yn y caffi bar (Point One). Mae gennym drefniadau cytundebol ar waith â'r sefydliadau hyn i sicrhau bod eich data yn ddiogel ac wedi'i ddiogelu ar bob adeg. Dylid gwneud ceisiadau i dynnu'r wybodaeth hon o'r systemau hyn yn uniongyrchol i Chapter.
Mae ein cyflenwyr sydd â threfniadau cytundebol yn cynnwys:
Cyflenwr Gweithrediad
Patronbase Prosesu pryniannau tocynnau a chynhyrchion
Artifax Prosesu huriadau ystafelloedd a swyddfeydd
Point One Prosesu pryniannau yn y Caffi Bar
Etapestry Cadw cofnodion o grantiau a rhoddion a dderbyniwyd
Breathe System Adnoddau Dynol i gofnodi gwyliau a salwch cyflogeion Chapter
Sage Prosesu anfonebau
Ni fydd Chapter yn rhannu eich data personol â chwmnïau allanol at ddibenion masnachol.
Marchnata
Hoffem anfon gwybodaeth atoch chi am ffilmiau, perfformiadau, arddangosfeydd, cyfleoedd hurio, aelodaeth a gweithgarwch y Caffi Bar sy'n ffurfio rhan o weithgareddau arferol Chapter, yn ogystal â gwybodaeth achlysurol am sioeau gan sefydliadau diwylliannol tebyg a all fod o ddiddordeb i chi. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd ar gyfer hyn adeg archebu.
Os ydych wedi rhoi caniatâd i dderbyn deunydd marchnata, mae modd newid eich meddwl yn y dyfodol.
Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i'n hatal rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata drwy ffonio ein Swyddfa Docynnau drwy 029 2030 4400 neu drwy anfon e-bost i enquiry@chapter.org. Mae pob e-bost cyfathrebu gan Chapter yn cynnwys dewis i 'ddatdanysgrifio' ar waelod yr e-bost.
Codi Arian
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac mae'n dibynnu ar roddion gan unigolion, cwmnïau ac ymddiriedolaethau i wneud ei rhaglen artistig a gwaith addysgol yn bosibl.
Hoffem gysylltu â chi o dro i dro ynghylch ein gweithgarwch codi arian, a byddwn yn gofyn am ganiatâd ar eich pwynt cyswllt cyntaf â Chapter i'ch ychwanegu at y rhestr hon.
Os ydych wedi rhoi caniatâd i dderbyn deunydd codi arian, mae modd newid eich meddwl yn y dyfodol.
Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i'n hatal rhag cysylltu â chi at ddibenion codi arian drwy ffonio ein Swyddfa Docynnau drwy 029 2030 4400 neu drwy anfon e-bost i enquiry@chapter.org. Mae pob e-bost cyfathrebu gan Chapter yn cynnwys dewis i 'ddatdanysgrifio' ar waelod yr e-bost.
Mae Chapter wedi cofrestru â'r Rheoleiddiwr Codi Arian, sy'n cynnal y Cod Ymarfer Codi Arian ym Mhrydain. Gofynnwn i chi gysylltu â Chapter yn uniongyrchol yn gyntaf pe byddai gennych unrhyw bryderon am ein gweithgarwch codi arian, ond gallwch hefyd gyfeirio cwynion at y Rheoleiddiwr drwy www.fundraisingregulator.co.uk neu at y Comisiynydd Cwynion Gwybodaeth drwy www.ico.org.uk
Mynediad at eich data personol a'i gywiro
Mae gennych hawl i weld y data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi. Os hoffech gopi o'r data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi, anfonwch e-bost neu lythyr i d/o Y Rheolwr Marchnata, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE.
Rydym eisiau sicrhau bod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch ofyn i ni gywiro neu dynnu data rydych yn credu sy'n anghywir drwy gysylltu â ni drwy'r cyfeiriad uchod, drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 neu drwy anfon e-bost i enquiry@chapter.org
Cwcis
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu storio gan eich porwr gwe (e.e. Internet Explorer, Chrome, Safari, Firefox) ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol i wella ymarferoldeb gwefan (ar gyfer storio dewisiadau defnyddwyr).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org
Sut mae gwefan Chapter yn defnyddio cwcis?
Mae gwefan Chapter yn defnyddio cwci i gofnodi a yw porwr defnyddiwr wedi'i alluogi i ddefnyddio JavaScript, teclyn cyffredin ar wefannau a ddefnyddir ar gyfer darparu rhyngweithioldeb megis animeiddio elfennau o dudalen e.e. eu pylu i mewn ac allan. Baner syml ie/na yw'r cwci, ac nid yw'n cynnwys data personol. Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics hefyd. Teclyn yw Google Analytics sy'n galluogi dadansoddi ymddygiad defnyddwyr ar wefan, er mwyn helpu perchennog y wefan i ddarparu'r profiad defnyddiwr gorau. Mae Google Analytics yn cynhyrchu cwcis sy'n nodi a ydych chi wedi ymweld â'r wefan o'r blaen, pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw ac ati. Ni ellir defnyddio'r cwcis hyn i adnabod unigolion; cânt eu defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig ac nid yw'r data'n dangos gwybodaeth gyfrinachol. Dim ond perchennog y wefan, darparwr y wefan, sef Tincan, a'r tîm perthnasol yn Google sy'n gallu gweld y data ei hun.
Mae'r wefan hon yn cynnwys gallu i ryngweithio â gwefannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, Disqus ac mae'n defnyddio gwasanaethau Share This sy'n caniatáu rhyngweithio ag ystod eang o wefannau cyfryngau cymdeithasol trydydd parti. Dylech fod yn ymwybodol y gall y gwefannau hynny osod cwcis hefyd wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon i wella ymarferoldeb. Nid yw Chapter yn gyfrifol am y cwcis trydydd parti hyn ac mae gennych ddewis i beidio â'u galluogi, er y gall hyn effeithio ar ymarferoldeb y wefan. I gael rhagor o fanylion, dylech wirio polisïau preifatrwydd y gwasanaethau unigol dan sylw.
Mae cynnwys fideo/sain o You Tube neu Vimeo ar y wefan hon. Dylech fod yn ymwybodol y gall y gwefannau hynny osod cwcis wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon er mwyn gwella ymarferoldeb y wefan. Nid yw Chapter yn gyfrifol am y cwcis trydydd parti hyn ac mae gennych ddewis i beidio â'u galluogi, er y gall hyn effeithio ar ymarferoldeb y wefan. I gael rhagor o fanylion, dylech wirio polisïau preifatrwydd y gwasanaethau unigol dan sylw.
O ran gwefan Chapter ei hun, gallwch gyfyngu neu atal y cwcis a ddefnyddir gan y wefan drwy osodiadau eich porwr, ond bydd hyn yn effeithio ar brofiad y defnyddiwr. Dylai'r teclyn 'Cymorth' yn eich porwr esbonio sut i wneud hynny.
Gwerthiannau Tocynnau PatronBase
Rydym yn defnyddio cymysgedd o gwcis hanfodol a chwcis nad ydynt yn hanfodol fel rhan o'r broses archebu er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl.
Cwcis hanfodol
Er mwyn cadw golwg ar eich archeb, mae'n hanfodol ein bod yn storio "cwci sesiwn" ar eich cyfrifiadur. Bydd y cwci hwn yn para 24 awr.
Cwci sy'n cael ei ddileu pan mae'r defnyddiwr yn cau'r porwr gwe yw cwci sesiwn. Caiff y cwci sesiwn ei storio mewn cof dros dro, ac ni chaiff ei gadw ar ôl cau'r porwr. Nid yw cwcis sesiwn yn casglu gwybodaeth o gyfrifiadur y defnyddiwr.
Cwcis nad ydynt yn hanfodol
Rydym yn defnyddio rhai cwcis nad ydynt yn hanfodol i addasu eich profiad archebu a'i wneud yn haws ac yn fwy hwylus i chi. Defnyddir y cwcis ychwanegol hyn i storio pethau megis eich manylion mewngofnodi, fel bod modd mewngofnodi'n awtomatig bob tro rydych yn ymweld â'n gwefan.
Cyn storio'r cwcis hyn am y tro cyntaf, byddwn yn eich rhybuddio ac yn gofyn am eich caniatâd cyn parhau. Os nad ydych yn dymuno storio'r cwcis hyn, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r nodwedd penodol hwnnw, ond bydd gweddill y wefan yn parhau i weithio'n iawn.
Gwefannau eraill
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Dim ond i'r wefan hon y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol iddo, felly pan rydych yn dilyn dolen i wefannau eraill, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd nhw.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn yn nodi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 16 Chwefror 2018.
Sut i gysylltu â ni
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi preifatrwydd neu am y data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi:
drwy e-bostio – enquiry@chapter.org
drwy ffonio – 029 2030 4400
drwy'r post – d/o Y Rheolwr Marchnata, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE