Mae'r ddalen hon yn dangos ein Swyddi a Chyfleoedd ar gael. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, gweler isod.
CYNORTHWYYDD CAFFI BAR
CYFLOG: £9.90 yr awr
ORIAU: Yn ôl gofyn eich goruchwyliwr, gweithio sifftiau cynnar a hwyr ac ar y penwythnosau.
LLEOLIAD: CAFFI BAR CHAPTER
YN ATEBOL I: Goruchwyliwr Sifft, Rheolwr Caffi Bar
DYLETSWYDDAU
Caffi a bar
Am y disgrifiad swydd lawn, cliciwch isod. I geisio am y swydd llenwi ac anfon y Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal i apply@chapter.org.
Cynorthwyydd Rhaglen
Adran: Rhaglen
Cyflog: £23,922
Oriau: 40 awr yr wythnos (TOIL). Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.
Lleoliad: Wedi’u lleoli yn y swyddfa yn Chapter, Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd pan fo’n bosib.
Contract: Parhaol (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis)
Yn atebol i: Cyfarwyddwr Rhaglen / Cyd-Gyfarwyddwr Dros Dro
Yn gyfrifol am: Neb yn adrodd yn uniongyrchol yn barhaol
Ein hymgeisydd Delfrydol
Mae hon yn swydd gyffrous yn y sefydliad, ac mae’r Cynorthwyydd Rhaglen yn gweithio ar draws ein holl ffurfiau ar gelfyddyd, gan gynnwys ffilm, celf weledol, perfformio ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n adran brysur iawn, ac felly bydd gofyn i chi fod yn rhagweithiol, yn egnïol, yn hyblyg ac yn greadigol eich ffordd. Bydd hefyd angen i chi fod yn drefnus, gyda llygad graff am fanylion, gan mai darparu cymorth gweinyddol a chydlynu yw rhan fawr o’r swydd.
Byddwch yn unigolyn trefnus a bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ymdrin yn ddoeth â sefyllfaoedd sensitif. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio’n unol ag amserlenni tynn, gan aros yn ddigynnwrf a chanolbwyntio dan bwysau. Byddwch yn ffynnu mewn tîm, ond bydd modd i chi hefyd weithio ar eich menter eich hunan pan fydd angen.
Byddwch yn chwilfrydig ac yn angerddol am y celfyddydau ac yn ymroddedig i ddarparu rhaglenni creadigol a diddorol ar draws pob ffurf ar gelfyddyd.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
Am y disgrifiad swydd lawn, cliciwch isod. I geisio am y swydd llenwi ac anfon y Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal i apply@chapter.org.
Dyddiau cau: Dydd Mawrth 4 Ebrill
Cyfweliadau: 25/26 Ebrill
Swyddog Cymorth Technoleg Gwybodaeth
Adran: Adnoddau
Cyflog: £25,000 pro rata, (£15,000 ar gyfer contract 60%)
Oriau: 24 awr yr wythnos, dros dri diwrnod gan gynnwys dydd Sadwrn, ar sail rota. Oherwydd natur y gwaith, mae’n bosib y bydd disgwyl i chi weithio sifftiau neu fod ar alw, ac efallai y bydd angen gweithio oriau ychwanegol i orffen darn o waith.
Lleoliad: Bydd disgwyl i chi fod wedi’ch lleoli yn y swyddfa yn Chapter yng Nghaerdydd, er mwyn gallu bod yn bresennol i gefnogi staff a chwmnïau Chapter wyneb yn wyneb. Rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallech weithio gartref ar adegau o bosib.
Contract: Parhaol
Yn atebol i: Rheolwr Technoleg Gwybodaeth
Yn gyfrifol am: Neb yn adrodd yn uniongyrchol yn barhaol
Diben Y Swydd
Dyma gyfle cyffrous i run sydd â diddordeb brwd mewn dilyn gyrfa ym maes technoleg gwybodaeth wrth weithio mewn canolfan gelfyddydau ddeinamig.
Yn y swydd drawsadrannol yma, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Technoleg Gwybodaeth i ddarparu cymorth rheng flaen ar gyfer ystod o systemau technegol sy’n galluogi sefydliad a chanolfan fawr i weithredu’n llyfn.
Bydd disgwyl i chi gefnogi’r Rheolwr Technoleg Gwybodaeth yn y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd, a chyflawni tasgau gweinyddol sy’n cefnogi’r swyddogaeth Technoleg Gwybodaeth. Fel y pwynt cyswllt cyntaf i staff a thenantiaid ar draws y sefydliad, ac o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, bydd disgwyl i chi ddatrys problemau technegol yn barhaus a darparu cymorth technoleg gwybodaeth sylfaenol.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
Am y disgrifiad swydd lawn, cliciwch isod. I geisio am y swydd llenwi ac anfon y Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal i apply@chapter.org.
Dyddiau cau: Dydd Mawrth 4 Ebrill, hanner dydd.
Chapter Caffi-Bar: Cogydd
Adran: Masnachu Chapter
Cyflog: £22,000
Oriau: Hyblyg, dim sifftiau hollt, dim mwy nag 8 awr y dydd, sifft, fore yw 9yb tan 5yh, a'r nos yw 4yp tan 10:30yh, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Lleoliad gwaith: Cegin Chapter
Yn adrodd i: Prif Gogyddion
Diben y Swydd
Bod yn rhan o dîm o gogyddion yng nghegin Chapter, sy’n ymroddedig i ddarparu bwydlen
gost-effeithiol o ansawdd uchel ar gyfer y caffi bar a’r gwasanaeth lletygarwch. Fel rhan
o’r tîm, byddwch yn ymdrechu’n barhaus am ragoriaeth, yn cynnal amgylchedd glân a
diogel, yn helpu i gyrraedd lefelau elw targed, yn rheoli gwastraff ac yn helpu i gynnal y
safonau uchaf o hylendid cegin.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
• Paratoi a choginio’r fwydlen yn Chapter, sy’n cael ei choginio’n ffres ar y safle.
• Bod ag ymagwedd ragweithiol tuag at gynnal safonau uchel o wasanaeth mewn
cegin brysur.
• Cefnogi, dysgu a chyflwyno bwydlenni, cynnig syniadau ar gyfer y bwrdd prydau
arbennig, y tu allan i’r fwydlen ddyddiol.
• Gweithio i baratoi bwyd ar gyfer ystod o anghenion deietegol.
• Gweithio mewn amgylchedd glân a thaclus gan gadw at arferion diogelwch bwyd
da.
Mae ein safle i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
Am y disgrifiad swydd lawn, cliciwch isod. I geisio am y swydd llenwi ac anfon y Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal i apply@chapter.org.