Art Car Bootique 2017

dydd Sul 28 Mai

NEGES BWYSIG

The event has already taken place. You can enjoy this archived content, but you can no longer book tickets.

Art Car Bootique 2017

Mae Chapter a Something Creatives yn falch iawn o gyflwyno Art Car Bootique eleni - CHWYLDRO!

Thema Art Car Bootique eleni yw CHWYLDRO! a bydd yn ystyried canmlwyddiant y Chwyldro yn Rwsia, un o'r adegau mwyaf radical erioed. Yn rhan o Ŵyl Rwsia 17 a gynhelir ledled y ddinas, rydym yn gofyn i artistiaid a chrefftwyr eleni i ddweud wrthym am eu gweledigaethau nhw o'r CHWYLDRO, yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Ers ei sefydlu yn 2011, bu’r digwyddiad hwn, sy'n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd stryd, cerddoriaeth, ffasiwn 'vintage' a phrosiectau wedi'u curadu, yn ddathliad egnïol o gymuned greadigol de Cymru. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig – bydd mwy na 70 o stondinau i chi eu mwynhau ynghyd â cherddoriaeth fyw a pherfformiadau ar y llwyfan. 

Rachel Helena Walsh | good cop bad cop | Yellow Back Books | Megan Winstone and James Cocks | Rhôd Artists Group | elysium gallery & artists studios | Richard Higlett | Barrie J Davies | CCQ Magazine | ArcadeCardiff | Flossy and Boo | C.A.A.P.O | Printhaus | Ffotogallery | Guest Who | Film Hub Wales | The Sol Cinema | Galerie Simpson Swansea | The SHO Gallery and Shop | The Bone Yard | Alternative Events | The Pedal Emporium | Trebanog Project | Cosmo | Junior Bill | Matt The Hat & Gareth Potter Welsh Balearic DJ Set | Tonto Malembe | VIBE Roulette | Dylans Mobile Bookstore | D'Vinyl Records | Head Over Heels Vintage | EllyMental Jewellery | Anna Palamar Designs | Eagle Eye Vintage | Vintage Mix | I Loves The 'Diff | Dizzy Pineapple | Als Musique Boutique & Gentlemans Emporium | Nelly's Treasures | In Rainbows | Elen Angharad | Bonnie.Designs | Baked By Lou | Dirty Vintage | CHAPTER BBQ | MILGI | Kerbside Cuisine | Ffwrnes Pizza | La Ffroga | Tukka Tuk by Anand George (Purple Poppadom) | Early Bird Bakery | MaiBock Beer Festival 2017

Gyda chefnogaeth Cyfeillion Chapter.

  • 11am-6pm (y tu allan yn y maes parcio)
  • 6-11.30pm (yn y Caffi Bar)

 

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×