BELIEF SYSTEM CAERDYDD
Galwad am gyfranogwyr gwirfoddol
Gosodwaith trochol yw BELIEF SYSTEM a wnaed â channoedd o recordiadau llais o gredoau pobl, a gasglwyd gan drigolion ledled Caerdydd. Bydd y prosiect, a grëwyd gan Theatr Ranters yn Awstralia, yn cael ei gyflwyno yma yn Chapter yn haf 2023.
Beth rydyn ni’n chwilio amdano
Rydyn ni’n chwilio am gyfranogwyr gwirfoddol ar gyfer ein prosiect celf newydd i recordio credoau a’u hanfon i fod yn rhan o’r prosiect. Rydyn ni’n chwilio am bobl o bob oed, cefndir, hunaniaeth, gallu a diwylliant.
Caiff pob cred ei thrin yn ddienw, yn gyfartal, a heb feirniadaeth.
Gyda chredoau’n amrywio o’r dwys i’r dibwys, yr ysbrydol a’r athronyddol i’r hynod bersonol, mae’r gwaith yn siarad â’r foment fel capsiwl amser, gyda phob cred yn cyffwrdd â hanes, naratif, teimlad, ac yn gweithredu fel sylwebaeth ar y beunyddiol.
CYFLWYNO EICH CREDOAU
Gallwch gymryd rhan yn y prosiect cyffrous yma drwy lawrlwytho CANLLAWIAU BELIEF SYSTEM a chyflwyno ffeiliau sain o’ch credoau chi i submissions@chapter.org.
Darllenwch y canllawiau atodedig yma cyn cyflwyno eich ffeiliau.
I gael rhagor o wyboaeth neu os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at kit.edwards@chapter.org