Croeso i'r Caffi Bar!
Mae ganddon ni fwydlen dymhorol flasus newydd, ac rydyn ni wedi gwneud rhai gwelliannau i’n gofodau awyr agored, felly gallwch fwynhau tamaid blasus i’w fwyta a diod ffres yn yr awyr agored. Mae ganddon ni babell hyfryd o flaen yr adeilad, a seddi ychwanegol dan do yn ein gardd gwrw. Mae gwresogyddion patio ar gael yn y ddwy ardal i’ch cadw’n gynnes ac yn glyd pan fydd hi’n oeri – ac mae cysylltiad di-wifr ar gael.
Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, ac i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau posib pan fyddwch chi'n ymweld â ni, gofynnwn i chi weithio gyda ni drwy ddilyn ein canllawiau diogelwch.
Mae’r dudalen yma’n cael ei diweddaru’n rheolaidd, felly cofiwch edrych arni cyn ymweld.
Diweddariad 28 Ionawr 2022
Oriau Agor
Dydd Sul - Dydd Mercher: 9am – 10pm, Dydd Iau - Dydd Sadwrn: 9am - 11pm
Caffi: Dydd Llun – Dydd Sul: 9am – 9pm (sylwch, ein bwydlen llawn dim ar gael dydd Llun*)
Bar: Dydd Sul – Dydd Mercher: Canol y dydd – 10pm, Dydd Iau – Dydd Sadwrn: Canol y dydd – 11pm
Rydyn ni’n gweini bwyd ar yr amseroedd canlynol:
• Brecwast: Mawrth – Sul, 9 – 11.30am
• Cinio: Mawrth – Sadwrn, 12 – 2.30pm
• Bwydlen drwy’r dydd: Mawrth – Sadwrn, 12 – 2.30pm & 5 – 8.30pm
• Cinio Sul: 12 – 4pm
* Yn debyg i lawer o’n cyfoedion yn y diwydiant lletygarwch, rydyn ni’n profi prinder staff. Er ein bod ni’n gwneud popeth gallwn ni i gynnig ein bwydlen lawn bydd ein cegin ar gau ar ddydd Llun. Mae hyn er mwyn i ni allu edrych ar ôl ein tîm llai o staff, a pharatoi ar gyfer yr wythnos i ddod i sicrhau bod ein cynnig o fwyd a diod yn ffres ac yn flasus. Er y bydd ein cegin ar gau ar ddydd Llun, byddwn ni’n dal i weini toesenni melys a sawrus, detholiad mawr o gacennau, brechdanau ffres, byrbrydau oer, a’n diodydd poeth ac oer arferol.
Chwilio am fwrdd
Os ydych chi’n ymweld â’n caffi bar, does dim angen archebu ymlaen llaw. Pan fyddwch chi’n cyrraedd, dewch i mewn a chwiliwch am sedd wag. Cofiwch nad ydyn ni’n cadw byrddau mwyach.
Bydd ein staff yn gwisgo cyfarpar diogelu personol, ac mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb tan eich bod yn eistedd wrth eich bwrdd (mae eithriadau i hyn). Mae glanweithydd dwylo ar gael ledled yr adeilad, ac rydyn ni'n gweithredu trefn lanhau drylwyr. Rydyn ni wedi lleihau ein capasiti. Mae marciau ar y llawr i'ch helpu gyda chadw pellter cymdeithasol a chanfod eich ffordd o gwmpas y gofod.
Archebu bwyd a diod
Gallwch archebu a thalu drwy'ch ffôn neu ddyfais ddigidol, a does dim angen i chi lawrlwytho ap. Os yw'n well gennych, gallwch archebu o'ch bwrdd drwy aelod o staff, neu gallwch archebu wrth gownter y caffi bar. Os byddwch chi’n archebu wrth y cownter, cofiwch y byddwn ni’n gofyn i chi am rif eich bwrdd, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael bwrdd yn gyntaf.
Bwydlen
O’n byrgyrs planhigion a chig poblogaidd, i ffefrynnau tymhorol fel Cawl Cig Oen, a bwrdd du o brydau arbennig amrywiol, rydyn ni’n hyderus y byddwch chi’n mwynhau ein bwyd cartref swmpus.
Bwyd i fynd
Mae bwyd i fynd ar gael. Lle bo'n bosib, defnyddiwch daliad di-gyswllt.
Canllawiau i Ymwelwyr
Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, ac i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau posib pan fyddwch chi'n ymweld â ni, gofynnwn i chi weithio gyda ni drwy ddilyn ein canllawiau diogelwch:
Hygyrchedd
Mae ein Caffi Bar ar y llawr gwaelod lle mae mynediad gwastad i'r adeilad drwy ddrysau awtomatig. Mae gofodau parcio anabl penodedig yn y maes parcio blaen a chefn.
Rydyn ni'n wrth ein boddau o gael toiledau pob-rhywedd newydd sbon yn ein Caffi Bar, ynghyd â thoiledau ar wahân i ddynion a menywod yn yr ardal Sinema. Mae dau gyfleuster newid sy'n addas i gadeiriau olwyn, ac un cyfleuster Changing Places (sy'n cynnig digon o ofod ac offer i bobl nad oes modd iddynt ddefnyddio'r toiled yn annibynnol) ar y llawr gwaelod.
Cwestiynau Cyffredin: Bwyd & Diod
Cofiwch nad ydyn ni’n cadw byrddau mwyach.
Does dim cyfyngiadau ar eich bwrdd.
Rhaid i chi wisgo mwgwd nes eich bod yn eistedd wrth eich bwrdd. O ddydd Gwener 18 Chwefror ymlaen, does dim angen i chi ddangos pàs Covid i gael mynediad i’n sinemâu a’n theatrau.
Mae ganddon ni weithdrefn lanhau drylwyr ar waith. Caiff yr holl fyrddau eu glanhau'n drylwyr
Y drysau blaen a chefn yw'r allanfa o'r adeilad.