Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb yma, anfonwch e-bost at enquiry@chapter.org ac fe wnawn ni eich ateb cyn gynted â phosib.
Cofiwch nad ydyn ni’n cadw byrddau mwyach.
Does dim cyfyngiadau ar eich bwrdd.
Rhaid i chi wisgo mwgwd nes eich bod yn eistedd wrth eich bwrdd. O 28 Chwefror ymlaen, bydd cyfyngiadau ar wisgo masgiau’n codi. Serch hynny, gofynnwn i chi ystyried pobl sy’n fwy bregus na chi, ac rydyn ni’n cynghori eich bod yn parhau i wisgo masgiau os gallwch chi. Bydd ein staff yn parhau i wisgo gorchuddion wyneb.
Mae ganddon ni weithdrefn lanhau drylwyr ar waith. Caiff yr holl fyrddau eu glanhau'n drylwyr.
Y drysau blaen a chefn yw'r allanfa o'r adeilad.