Bwyta & Yfed
Mae ein caffi-bar gwobrwyol wrth galon bywyd Chapter ac mae awyrgylch bywiog a chroesawgar i'w gael yno bob awr o'r dydd, bob dydd o'r wythnos. Mae'n lle perffaith i ddod i drafod yr hinsawdd ddiwylliannol dros goffi (neu rywbeth cryfach), i lowcio tamaid blasus cyn digwyddiad neu i eisteddian gyda ffrindiau am gyfnod. Mae llawer o bobl yn manteisio ar ein cysylltiad Wi-fi cyflym, am ddim, ac yn ein defnyddio ni fel swyddfa dros dro neu fan ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol.