Cafficadabra

dydd Sadwrn 27 Hydref - dydd Sadwrn 27 Gorffennaf

8 - 10pm

Cafficadabra

Noson o driciau gan y dewin, y smart-wisgwr a’r mwstas-garwr, Joseff Badman. Yn dilyn ymddangosiadau diweddar yn y Magic Circle yn Llundain, bydd Joseff yn perfformio yn y Caffi Bar ac yn rhoi blas i chi o’i sioe unigryw a rhyfedd. Nid yw’n defnyddio gwifrau, dyfeisiau electroneg neu gamerâu o unrhyw fath yn ei sioe. Caiff pob tric ei berfformio heb ddim mwy na dwylo, gwrthrychau cyffredin a LLAWER IAWN o amser sbâr. Ac mae’r cyfan oll yn digwydd mewn amrantiad!

RHAD AC AM DDIM

Tocynnau

  • Sad 23 Chwef 8:00pm
  • Sad 27 Ebr 8:00pm
  • Sad 29 Meh 8:00pm
  • Sad 27 Gorff 8:00pm

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×