Lleoliad: Chapter
Dyddiad: dydd Mawrth 28 Ionawr - dydd Mawrth 18 Mawrth

NEGES BWYSIG

You can enjoy the content we have for this event but you can no longer book online for this event.

Casey Raymond and Ewan Jones Morris

Chapter

Mae Casey Raymond ac Ewan Jones Morris yn wneuthurwyr ffilm ac artistiaid aml-gyfrwng sy'n gweithio yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, fu fuon nhw'n cydweithio â Bedwyr Williams, cynrychiolydd Cymru yn Biennale Fenis 2013, gan gyfarwyddo a golygu ffilm ar gyfer ei arddangosfa, 'The Starry Messenger'. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar ddau fideo cerddoriaeth wedi'u hanimeiddio ac yn trafod gwneud ail ffilm gyda Bedwyr, gwaith wedi'i osod mewn cymdeithas yn y dyfodol lle mae pobl yn byw mewn clybiau nos.

Gyda'i gilydd, mae Ewan a Casey wedi creu fideos cerddoriaeth ar ran amrywiaeth eclectig o artistiaid, gan gynnwys:Cate Le Bon, DJ Shadow, The Human League, The Lovely Eggs, Dizzie Rascal John Grant, Charlotte Church, Islet, Aeroplane, Sweet Baboo, Turbowolf, Future of the Left, Los Campesinos, Pinkunoizu, Los Cripis, Laura J. Martin, Joanna Gruesome… yn ogystal â churadu llwyfan y Crystal Massage yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Yn ddiweddar, cafwyd sylw i'w gwaith cyfarwyddo yng ngŵyl BUG yn y BFI, lle cawsant eu cyf-weld gan Adam Buxton o flaen cynulleidfa ddryslyd.

Llun: Casey Raymond ac Ewan Jones Morris

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×