Cefnogwch Ni
Mae Chapter yn elusen cofrestredig ac yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion, busnesau ac ymddiriedolaethau elusennol i gynnal ein rhaglen artistig. Ar adeg arferol mae’r gefnogaeth yma yn gyfystyr a 10% o’n hincwm ac yn ein helpu i ariannu hyd at 12 o arddangosfeydd, 2,000 dangosiad yn y sinemau, 600 o berfformiadau theatr a llawer mwy o weithdai, dosbarthiadau, sgyrsiau a digwyddiadau bob blwyddyn.
Rydym yn wynebu her digynsail wrth i ni baratoi i ail-adeiladu’r sefydliad ar ôl cau yn sgil Covid 19, a does dim adeg pwysicach wedi bod i ni sicrhau’r gefnogaeth yma. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu.