Newidiadau i Aelodaeth Chapter
Diweddariad Hydref 2021
Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'n haelodau am ein cefnogi ni yn ystod y misoedd anodd diwethaf. Mae'r aelodau wedi bod yn hanfodol er mwyn goroesi, ac er bod y gefnogaeth hyd yma wedi'n helpu ni i ailagor ein drysau, rydyn ni bellach yn dechrau ar yr her sylweddol o adeiladu'n ôl.
Gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol newydd ar waith, rydyn ni wedi gorfod lleihau nifer y byrddau sydd yn y caffi bar, a’r nifer o seddi a dangosiadau sydd yn ein sinemâu a’n theatrau er mwyn eich cadw chi mor ddiogel â phosib.
Mae’r incwm o'r caffi bar a gwerthiannau tocynnau yn debygol o gwympo 60% o gymharu â'r hyn roedden ni'n ei brofi'n flaenorol. Ar gyfer safle sydd fel arfer yn cynhyrchu 80% o'i incwm ei hun, mae hyn yn ergyd enfawr i'r elusen, a gallai effeithio'n sylweddol ar ein gallu i gyflwyno'r gorau i chi o fyd ffilm, celf, perfformio, bwyd a diod.
Yn ogystal â'r bygythiad yma, rydyn ni hefyd wedi gorfod newid y ffordd rydyn ni'n gweithio, ac mae hyn wedi cynnwys cyflwyno llawer o systemau newydd fel sganwyr tocynnau electronig, tiliau newydd, ac ap archebu. Mae'r rhain wedi'u dylunio i gefnogi mesurau cadw pellter cymdeithasol, ond ar hyn o bryd dydyn nhw ddim o reidrwydd yn gallu cefnogi rhai o'n cynlluniau presennol, fel Aelodaeth Chapter.
Tra rydyn ni'n gweithio gyda'r cyfyngiadau yma, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd i oedi manteision cysylltiedig ag Aelodaeth Chapter tan nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae hyn yn golygu nad oes modd cynnig gostyngiadau yn y caffi bar, y theatrau na’r sinemâu ar hyn o bryd, a byddwn ni’n ysgrifennu at yr holl aelodau presennol gyda rhagor o wybodaeth yn fuan, i roi diweddariad am unrhyw newidiadau.
Yn ogystal, does dim modd dechrau aelodaeth newydd / adnewyddu aelodaeth am y tro.
Rydyn ni'n deall bod hyn yn siom, ond gobeithio y byddwch chi'n deall ein bod wedi gwneud y penderfyniad yma i helpu i sicrhau ein dyfodol, ac i sicrhau bod pob ceiniog yn mynd tuag at greu dyfodol ariannol cryfach yn yr hirdymor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â fundraising@chapter.org