Rhoddion yw'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu, gan ein bod ni'n cael 100% o'r hyn rydych chi'n ei roi i ni – does dim TAW, ac mae cyfle ychwanegol i gynyddu gwerth eich rhodd o 25% drwy Rodd Cymorth.
Cyfraniadau unigol
Mae cyfraniad rheolaidd yn ffordd syml, ddiogel ac effeithiol i gefnogi ein gwaith artistig ac addysgol sy’n rhoi budd i dros 1500 o bobl ifanc bob blwyddyn ac yn sicrhau rhaglen gynhwysol o’r safon uchaf.
Phantri Cymunedol
Mae Pantri Cymunedol Chapter yn ffordd fach o helpu i gynnig bwyd ychwanegol na all pobl eu fforddio, yn hytrach na disodli bwyd y gellir ei fforddio; ac felly bydd Chapter yn cefnogi’r Pantri Cymunedol gyda rhoddion rheolaidd. Rydyn ni’n annog y bobl yn ein cymuned sy’n gallu fforddio gwneud hynny i gefnogi’r fenter newydd yma gyda rhoddion o fwyd nad yw’n mynd yn ddrwg yn gyflym ac sydd o fewn ei ddyddiad. Ni fydd staff gan y Pantri Cymunedol, ond bydd yn cael ei reoli gan dîm cyfeillgar blaen y tŷ Chapter, sydd wedi bod yn arwain ar y fenter yma.
Cyfraniadau misol
Mae rhodd rheolaidd yn caniatáu i Chapter gael llif incwm rheolaidd a dibynadwy sy’n ein galluogi i wneud mwy ac i gynllunio ymlaen yn fwy effeithiol. Fel rhoddwr mae gyda chi reolaeth lawn a gallwch newid neu ganslo eich cyfraniad unrhyw bryd tra’n ymestyn cost eich cefnogaeth.Bydd eich cyfraniad yn cael ei dynnu o’ch cerdyn unwaith y mis. Os gwelwch yn dda cadwch dic y bocs 'Autorenew'.
Ffyrdd eraill i gyfrannu:
Ewch i easydonate.org/CHAPTER neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191
Diolch am eich cefnogaeth