Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Cefnogwch Ni

Cymynrodd

Ni fydd cymynrodd yn costio dim i chi nawr ond gallai olygu llawer iawn i genedlaethau’r dyfodol fydd yn mwynhau Chapter gymaint a chi.

Pam fod rhodd yn eich ewyllys mor bwysig

Bob dydd, mae Chapter yn croesawu aelodau o'r gymuned drwy ein drysau, gan gynnig cyfle iddyn nhw ymgysylltu ac ymateb i'n rhaglen gynhwysfawr yn yr oriel, theatr a sinema.

Mae uchelgais Chapter yn ddi-ben-draw, ond nid yw ein hadnoddau. Mae Covid wedi ymestyn ein cyllid a'n hadnoddau ymhellach, ac wedi peryglu ein dyfodol drwy ddisbyddu unrhyw gronfeydd wrth gefn oedd ganddon ni.

Wrth i Chapter agosáu at ei phen-blwydd yn hanner cant yn 2021, rydyn ni'n cydnabod bod angen i ni feithrin a datblygu'r gefnogaeth rydyn ni'n ei chael i sicrhau bod gan gymuned Caerdydd y cyfle gorau posib i gael mynediad at y celfyddydau, i ymwneud â nhw, ac i'w mwynhau.

Boed chi'n cefnogi un o feysydd penodol ein rhaglen ddeinamig, yn ymddiddori mewn cyflwyno pobl ifanc i'r celfyddydau, neu os ydych am gefnogi Chapter yn gyffredinol, gall rhodd i Chapter yn eich ewyllys wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a fydd yn para oes.

Sut i adael rhodd

Does dim rhaid i adael rhodd yn eich ewyllys fod yn gymhleth ond os ydych yn ystyried gwneud hynny dylech gael cyngor proffesiynol gan eich cyfreithiwr.

Os hoffech wybod mwy am bwy fydd yn elwa o’ch rhodd neu os oes cwestiynau am y broses croeso i chi gysylltu ac unrhyw aelod o’r tîm drwy ebostio fundraising@chapter.org

Os ydych eisoes wedi son am Chapter yn eich ewyllys cofiwch roi gwybod i ni er mwyn i ni gydnabod eich cyfraniad yn y ffordd mwyaf addas.

Cefnogwch Ni