Chapter - Y Blynyddoedd Cynnar

Sgwrs rhwng Christine Kinsey a Gilly Adams. (1999)

G.A. Mae hi'n anhygoel ein bod ni'n dau wedi bod yn gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru, mewn un ffordd neu'r llall, ers 30 mlynedd a mwy. Dw i ddim eisiau bod yn hiraethus neu siarad am y gorffennol fel pe bai'n oes aur, ond mae'r hinsawdd o ran y celfyddydau yn dra gwahanol nawr i'r hyn ydoedd pan ddechreuoch chi Chapter. Tybed a fyddai hi'n bosib i fenter debyg ffynnu nawr? Beth oedd eich gweledigaeth wreiddiol ar gyfer Chapter?

C.K. Fe drafododd Bryan Jones, Mik Flood a fi y syniad o sefydlu Canolfan Celfyddydau i Gymru yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1968. Fel artistiaid gweledol ac awduron, roedd y diffyg cyfleusterau ar posibilrwydd o gael llwyfan i'n gwaith ar y pryd yn hollol amlwg. Roedd Oriel Howard Roberts yn arddangos peintiadau a darluniau cyfoes ond doedd yna ddim gofod arddangos ar gyfer yr ystod amrywiol o gelfyddydau gweledol a ddatblygodd yn y 1960au. Hefyd, roedd yna ddiffyg mawr o ran gofod stiwdio a pherfformio fforddiadwy, felly fe aethom ni ati i gynllunio canolfan a fyddai'n ateb yr holl anghenion hyn. Yn y lle cyntaf, fe ystyrion ni sefydlu warws ar Stryd Bute fel canolfan annibynnol wedi'i rheoli gan artistiaid, ond ar ôl ymateb - yr unig un - gan Peter Jones, Swyddog Celfyddydau Gweledol Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, i hysbyseb yn yr International Times, yn gwahodd unrhyw un arall â diddordeb yn y fenter i ymuno â ni, cafodd y syniad gwreiddiol ei ehangu. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi fel petai unrhyw beth yn bosib ac, yn ystod y 18 mis canlynol, fe aethon ni ati i sefydlu rhaglen beilot o ddigwyddiadau er mwyn creu diddordeb yn y syniad o gael canolfan gelfyddydau. Yn 1970, fe ddaethom ni'n rhan o gynllun o'r enw Pavilions in the Park yng Nghasnewydd a Chaerdydd, dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd hon yn rhaglen o ddigwyddiadau, dros gyfnod o fis, mewn pafiliynau plastig ar ffurf cytiau Nissan. Roedd y rhaglen yn newid yn wythnosol ac fe ddeuai artistiaid gweledol, awduron a pherfformwyr i ddefnyddio'r mannau, a oedd ar agor yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd. Fe ddechreuon ni weithio hefyd gyda Steve Allison (sydd bellach yn Gyfarwyddwr y Design Stage yng Nghaerdydd), i drefnu cyngerdd bop 12-awr o hyd yng Ngerddi Sophia, gyda Pink Floyd - a Black Sabbath a Quintessence yn eu cefnogi. Gwahoddwyd artistiaid o bob math i gymryd rhan mewn digwyddiadau yn ystod y prynhawn. Y nod oedd hyrwyddo'r syniad o greu canolfan gelfyddydau – a chodi arian i dalu amdani. Roedd y gyngerdd yn llwyddiant ysgubol ac fe ddaeth nifer fawr o bobl - ond doedd yna ddim llawer o elw yn ei sgil, yn anffodus. Yn ogystal â hynny, fe drefnon ni ffilmiau yn Sinema'r Globe, symposia yn narlithfa Reardon Smith ac fe agoron ni siop wag yn Stryd y Frenhines er mwyn cyflwyno arddangosfeydd a pherfformiadau. O ganlyniad i hynny, fe ddaethom ni i gysylltiad ag artistiaid eraill ac aelodau o'r cyhoedd - ac fe gychwynnwyd trafodaeth agored ynglŷn â'r hyn y byddem yn dymuno'i weld mewn canolfan gelfyddydau.

G.A. Yn rhyfedd ddigon, roeddwn i'n rhan o brosiect Pavilions in the Park yn Abertawe ym 1971, a ysbrydolwyd gan yr hyn a wnaethoch chi y flwyddyn gynt - ond ddigwyddodd dim byd ar ôl y prosiect gwreiddiol. Sut lwyddoch chi i ddatblygu'r syniad yng Nghaerdydd?

C.K. Roedd canolfannau i'r celfyddydau yn beth cymharol newydd ar y pryd ac, fel aelodau Grŵp Prosiect Canolfan y Celfyddydau, roeddem yn ymwybodol iawn na ddylid arosod un weledigaeth yn unig ar gyfer y celfyddydau - a bod angen ymateb i'r anghenion penodol a nodwyd gan gyfranwyr. Yn wir, roedd yr ymateb i'r syniad o ganolfan gelfyddydol mor frwdfrydig fel i ni benderfynu mynd at Gyngor y Ddinas a'r Ymddiriedolaeth Theatrig Ddinesig. Roedd gyda ni dri adeilad segur i'w hystyried ac fe benderfynom ni taw gofod 27,000 troedfedd sgwâr hen Ysgol Uwchradd Canton oedd y gofod mwyaf addas. Roedd yr ysgol wedi bod yn wag ers dwy flynedd ac roedd yr adeiladau mewn cyflwr gwael. Roedd llawer o'r gwifrau trydan a nifer o ffenestri a phibau dŵr yn eisiau - ond roedd y safle'n fwy o lawer nag yr oeddem ni wedi'i ragweld ac roedd y rent misol yn rhad iawn. Bryd hynny, gwahoddwyd Peter Strevens, Geraldine Anderson, Richard Watson ac Alan Saunders i ffurfio pwyllgor rheoli cyntaf Chapter ac fe weithion nhw'n ddiflino i sicrhau bodolaeth y ganolfan. Syniad Bryan Jones oedd yr enw Chapter a hynny pan oedd Alan Saunders wrthi'n creu'r cwmni cyfyngedig â statws elusennol. Roedd aelodau Chapter yn gyfranddalwyr yn y cwmni hwnnw - dyw hynny ddim yn rhywbeth sy'n digwydd mewn sefydliadau celfyddydol mwyach! Drwy gydol y cyfnod hwn, roeddem ni mewn cysylltiad ag artistiaid eraill o bob math ac fe ddechreuodd ein syniadau ar gyfer y ganolfan ddatblygu.

G.A. Beth oedd polisi artistig Chapter ar y dechrau a sut datblygodd hwnnw wedyn? Oedd yna ffocws ar yr artistiaid neu ar y gymuned, y gynulleidfa arfaethedig?

C.K. O'r cychwyn cyntaf, raison d'être Chapter oedd creu man lle gallai disgyblaethau creadigol ddod at ei gilydd ac i annog, meithrin a chefnogi pob math o waith celfyddydol dan yr un to trwy ddarparu stiwdios a mannau ar gyfer ymarfer a golygu. Roedd yr angen i gyfathrebu'r syniadau hyn yn sail ar gyfer yr orielau, y theatrau a'r sinemâu. Roedd y modd y datblygodd y mannau hyn yn ymateb i anghenion pob maes creadigol oddi mewn i'r adeilad. Roedd pawb yn ymwybodol y byddai'n gyfle unigryw i chwalu'r ffiniau rhwng disgyblaethau ac i gychwyn trafodaeth rhyngddynt er mwyn creu cysylltiadau cryfion. Y gred waelodol oedd y byddai pob agwedd ar yr ysbryd creadigol yn ffynnu o ganlyniad i gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad.

Pan symudon ni i hen Ysgol Uwchradd Treganna ar ddiwedd 1971, roedd gennym ddau nod penodol: annog artistiaid o bob math i symud i'r adeilad er mwyn cynhyrchu gwaith a sicrhau bod aelodau o'r gymuned leol yn cael eu hannog i ddefnyddio'r adeilad gymaint â phosib. Y rhan gyntaf o'r adeilad i gael ei defnyddio oedd y rhan a oedd yn cynnwys y stiwdios. Cafodd y rhain eu cynnig i artistiaid am bris fesul troedfedd sgwâr ac o fewn dim o dro, roedd gennym arlunwyr, gwneuthurwyr printiau, cerflunwyr, crochenwyr, gwneuthurwyr offerynnau cerddorol ac artistiaid eraill yn gweithio mewn ystod eang o gyfryngau. Ymunodd grwpiau amatur fel Cymdeithas Gelfyddydau De Cymru a Theatr Everyman â ni ac fe aeth Bryan Bull ac aelodau Cymdeithas Cine Caerdydd ati i drosi hen ystafell gotiau yn un o'r gofodau sinema bychain gorau yn ne Cymru. Ar y cyd â hyn, fe ddechreuon ni droi ystafelloedd dosbarth yn Oriel ac yn sinema iawn i Chapter, gydag offer a brynwyd gan lawer o'r sinemâu a oedd yn gorfod cau yn y Cymoedd ar y pryd. Roedden ni'n credu y byddai'r Sinema yn ffordd allweddol o ddenu pobl i'r adeilad. Ffordd arall o gysylltu Chapter â'r gymuned oedd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a drefnai gyrsiau rheolaidd. Fe ddechreuon ni hefyd gynnal gweithdai i ysgolion iau lleol ar y cyd â'r rhaglen o arddangosfeydd yn yr Oriel, a gweithdai drama, a oedd yn beth cymharol newydd hefyd ar y pryd. Fe wahoddon ni famau lleol i gynnal ysgol feithrin, yn y gred y byddai annog plant ifanc i fwynhau cysylltiad agos â'r celfyddydau, yn rhan o fywyd bob dydd, yn arwain at werthfawrogiad naturiol ohonynt yn nes ymlaen. Roedd hyn ar ben cyfarfodydd a gynhaliwyd yn Chapter gan grwpiau eraill fel yr Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrywiol ac ysgol haf ar gyfer plant Sipsi. Ym 1972, roedd gwaith Chapter mewn rhai meysydd yn ddadleuol ac fe ddenodd sylw gelyniaethus yn y wasg, ond roedden ni'n credu bod angen i Chapter ymwneud â chroestoriad eang o fywyd y gymuned a'i bod hi'n allweddol ein bod yn ceisio chwalu'r rhwystrau rhwng y gymuned artistig a'r cyhoedd – yn wir, allai'r fenter ddim llwyddo oni bai ein bod ni'n gwneud hynny. Yn anffodus, dyna oedd tynged nifer o ganolfannau celfyddydol eraill yn ystod y blynyddoedd wedi hynny.

Roedd yr holl beth yn ddigon brawychus hefyd - sut oeddem ni am godi digon o arian nid yn unig ar gyfer addasu'r fath ofod mawr ond hefyd i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau? Yn y flwyddyn gyntaf, cododd Cyngor y Ddinas rent o £1000 arnom ac fe ddyfarnwyd grant o £2500 i ni gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd Bryan a fi wedi rhoi'r gorau i'n swyddi dysgu a Mik wedi rhoi'r gorau i fod yn newyddiadurwr - oherwydd ein bwriad, o'r cychwyn cyntaf, i ganolbwyntio ar ein gwaith artistig ein hunain, pan fyddai Chapter ar ben ffordd. Wrth gwrs, ddigwyddodd hynny ddim am fod yna gymaint o bethau eraill i'w gwneud. Er hynny, dw i'n dal i feddwl bod y blynyddoedd hynny yn rhai hynod greadigol i ni i gyd. Wrth i artistiaid newydd ymuno â ni ac wrth i'r adeilad ddatblygu mewn dull organig - roeddwn i'n meddwl yn aml am Chapter fel gosodiad enfawr, fel 'Merzbau' Kurt Schwitters, er ein bod ni'n ymwneud â chelfyddyd fyw a chelfyddyd amseryddol. Roedd Swyddogion Cyngor y Celfyddydau yn gefnogol iawn i'r fenter newydd ac fe geision nhw ddod o hyd i gyllid refeniw. Fe wnaethon nhw gais ar ein rhan am arian 'Housing The Arts' er mwyn trawsnewid mannau cyhoeddus ac roedd eu brwdfrydedd cyffredinol hefyd yn gaffaeliad mawr. Roedd derbyn grant cyfalaf gan Sefydliad Gulbenkian, ar gyfer adnewyddu'r sinema, yn fodd o ddangos ystod ehangach o lawer o ffilmiau ac i gael hysbysebion Pearl & Dean - a gwneud i'r lle deimlo fel sinema "go iawn". Fe wnaethon ni lawer o'r gwaith adnewyddu ein hunain, gyda chymorth sylweddol gan y pensaer Ian Grant Roberts. Fe luniodd e gynlluniau dyfeisgar ar gyfer trawsnewid y mannau cyhoeddus ac fe gymrodd ran weithredol yn y gwaith adeiladu ei hun hefyd. Dechreuodd y sinema gynhyrchu incwm bryd hynny, felly hefyd y bar – fe ddechreuon ni gynnal nosweithiau cerddoriaeth werin, jazz a darlleniadau barddoniaeth.

G.A. Beth oedd ymwneud artistiaid â'r ganolfan bryd hynny? Ai'r bwriad oedd rhoi blaenoriaeth i unrhyw ffurf gelfyddydol benodol?

C.K. Roedden ni'n gwybod bod angen i'r adeilad fod yn fan lle byddai artistiaid yn cynhyrchu gwaith yn ogystal â'i gyflwyno os oedd Chapter am lwyddo. Yr egni a gynhyrchwyd gan y creadigrwydd hynny oedd yn gyfrifol am ein hymrwymiad diwyro i syniadau ac athroniaeth y lle – a hynny mewn cyfnodau anodd iawn yn ystod y blynyddoedd cynnar. Roedden ni'n benderfynol o roi lle cyfartal - yn gorfforol ac yn y rhaglen - i bob disgyblaeth. Yn ymarferol, doedd hyn ddim wastad yn bosib ond dyna oedd ein bwriad. Ar y dechrau, Bryan, Mik a fi oedd yn gyfrifol am drefnu rhaglen yr oriel, y theatr a'r sinema a phan ymunodd Julie Flood â ni, ar ôl i ni symud i mewn i'r adeilad, fe ddechreuon ni daflunio ffilmiau, gwerthu tocynnau a hufen iâ, ynghyd â goleuo a rheoli cynyrchiadau yn y theatr, hongian gweithiau a goruchwylio arddangosfeydd, ceisio cadw'r mannau cyhoeddus yn lân a rheoli a gweithio y tu ôl i'r bar! Er bod yna lawer o waith, roedd gan Chapter nifer o ffrindiau a oedd yn barod i roi o'u hamser, eu cefnogaeth a'u sgiliau ac fe ddaeth y cymorth mwyaf gwerthfawr gan bobl a oedd wedi dod i adnabod Chapter trwy Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Trefnwyd y rhaglen gerddorol gan Judith Serota, ac o ganlyniad i'w hymdrechion hi, cafodd cynulleidfaoedd glywed cerddoriaeth brin yn ogystal â gwaith gan gyfansoddwyr cyfoes. Ym 1975-6, er enghraifft, trefnwyd 13 o gyngherddau â chyllideb o £1200. Roedd y rhain yn cynnwys yr English Consort, Ensemble Pres Gabrielli Llundain, John Cullis a Rhian Gwynfryn Evans, gweithdy gan Opera Cenedlaethol Cymru ar Albert Herring a chyngerdd gan Schola Golliardica, a chwaraeodd gerddoriaeth o'r ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg ar offerynnau a oedd yn gopïau dilys o offerynnau'r cyfnod – a hynny i neuadd dan ei sang.

Symudodd Geoff Moore a Moving Being i Chapter yn ystod gwanwyn 1972 ac roedd y mewnbwn creadigol hwn o actorion, dawnswyr, artistiaid a dylunwyr proffesiynol yn rym pwysig o ran gyrru'r theatr yn ei blaen. Yn y lle cyntaf, dyluniodd Peter Mumford, a oedd yn ddylunydd preswyl gyda Moving Being, ofod dros dro ar y llawr gwaelod tan i ni gynilo digon o arian i symud y theatr i ofod parhaol ar y llawr cyntaf. Roedd peth o'r gwaith theatr mwyaf cyffrous ac arloesol ym Mhrydain yn cael ei greu ar y pryd trwy Moving Being ac fe ddatblygodd perthynas symbiotig rhwng y cwmni a Chapter. Daeth cwmnïau eraill megis Cardiff Laboratory Theatre, Keith Wood Productions a Paupers Carnival i'r adeilad ac roedd y gwelliannau i'r gofod theatr yn golygu bod Chapter yn gallu derbyn y rhan fwyaf o'r cwmnïau theatr bychain gorau a oedd yn teithio ym Mhrydain ar y pryd. Roedd Chapter yn ffocws go iawn ar gyfer artistiaid theatr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.

G.A. Yn yr hyn sy'n teimlo fel oes gyfan o fynychu'r theatr, mae rhai o fy atgofion mwyaf byw yn cynnwys perfformiadau yn Chapter - 'Woyzek' Pip Simmonds, er enghraifft, lle cafodd yr adeilad cyfan ei waith, neu waith Alan Osborne, Valleys Opera Terraces, a fraenarodd y tir ar gyfer llawer iawn o ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru. Mae'r sîn deithiol ym Mhrydain wedi crebachu'n sylweddol ers hynny – ynghyd â'r nawdd sydd ar gael mewn termau gwirioneddol – a hynny i'r fath raddau fel ei bod yn anodd dychmygu cyfoeth rhaglen Chapter yn y 70au.

C.K. Fe gomisiynodd Cyngor Celfyddydau Lloegr adroddiad o'r enw Three Arts Centres gan eu huwch-ymchwilydd, Robert Hutchinson. Roedd Chapter yn un o'r tair canolfan hynny ac fe ddefnyddiodd e'r flwyddyn 1975-6 fel sail ar gyfer ei waith ymchwil. Roedd e'n eithaf beirniadol o Chapter oherwydd y deimlad, a oedd yn ddigon agos ati, mae'n siŵr, bod ein gweinyddiaeth yn ddiffygiol – roedd hynny'n ganlyniad i'r twf rhyfeddol yn ein cyfrifoldebau mewn meysydd eraill. Beth bynnag, mae ei adolygiad o'r rhaglen ar gyfer y flwyddyn ariannol honno yn rhyfeddol wrth edrych yn ôl. Fe gyflwynodd y theatr 30 o gynyrchiadau a oedd yn cynnwys nid yn unig y cwmnïau preswyl ond hefyd berfformiadau gan gwmnïau fel 7.84, The Gate, The Bush, Nola Rae, Pip Simmons, Lab Celfyddydau Birmingham, Foco Novo, Paines Plough ac Inter Action. Yn ystod yr un flwyddyn, dangosodd y sinema 150 o ffilmiau nodwedd gwahanol i gynulleidfa gyfun o fwy na 30,000. Fel arfer, roeddem yn dangos tair ffilm yr wythnos ac roedd y rhain yn gymysgedd o lwyddiannau masnachol a ffilmiau cyfandirol – roedd y ffilmiau mwy poblogaidd yn galluogi i ni gyflwyno'r gwaith mwy arbrofol. Arweiniodd llwyddiant y sinema at sefydlu gweithdy cynhyrchu ffilm, yr unig un o'i fath yng Nghymru ar y pryd, ac fe gwblhaodd Karl Francis beth o'i waith cynnar ar y cyd â'r gweithdy hwn. Yn y cyfamser, roedd Oriel Chapter yn cyflwyno digwyddiadau, perfformiadau a chelfyddydau concrid, cysyniadol, minimal a chinetig, paentio, printiau a cherfluniau, yn ogystal â gwaith gan yr 14 o artistiaid preswyl a oedd yn gweithio yn Chapter. Roedd yna arddangosfeydd eraill mwy dogfennol hefyd. Yn ogystal â hynny i gyd, roedd Chapter yn gallu cynnig cyfleoedd newydd i artistiaid benywaidd: ym mis Mai 1976 cynhaliwyd gŵyl fis o hyd - Merched y Celfyddydau - yn canolbwyntio ar artistiaid proffesiynol benywaidd ym myd y theatr, dawns, cerddoriaeth, barddoniaeth, ffilm a'r celfyddydau gweledol; pobl a oedd yn creu, yn cyflwyno ac yn perfformio eu gweithiau eu hunain. Doedd dim byd fel hynny erioed wedi digwydd yng Nghymru o'r blaen. Dywedodd Robert Hutchinson yn ei adroddiad, "Yn wir, y mae gan Yevgeny Yevtushenko, y Dywysoges Margaret, yr Arglwydd Redcliff Maud, John McGrath, Ardalyddes Môn a Bruce Lacy o leiaf un peth yn gyffredin - fe aethon nhw i gyd i ymweld â Chapter ym 1975-6."

G.A. Fel artist gweledol, mae'n rhaid bod gyda chi ddiddordeb arbennig yn rhaglen yr orielau?

C.K. Roeddem ni eisiau i ddwy oriel Chapter fod yn ffenestri ar Gymru ac yn ffordd i mewn i fyd celfyddyd gyfoes. Fe geisiom ni ddangos cyfran helaeth o'r gelfyddyd a oedd yn cael ei chynhyrchu yng Nghymru, ond roedd dyletswydd arnom hefyd i adlewyrchu'r newidiadau mawrion a oedd yn digwydd yn y byd celfyddydol ehangach. Yn y cyfnod modernaidd hwyr, roedd artistiaid yn ymateb i farchnad gelf ffyniannus y 1960au ac roedd yna syniad y dylai artistiaid newid fel yr oedd dylunwyr y diwydiant ffasiwn yn newid. Dechreuodd llawer o artistiaid fynd ati'n fwriadol i greu gwaith na fyddai modd ei werthu. Llwyddodd symudiadau fel Fluxus ac arddangosfeydd fel Fluxshoe i dynnu sylw at bryderon ecolegol ac fe ddaeth ambell i amcan cymdeithasol i fod yn bwysicach na'r amcanion esthetig cysylltiedig.

Roedd artistiaid avant-garde yn chwilio am ddiwylliant newydd lle byddai hi'n bosib i adlewyrchu gwerthoedd ysbrydol, moesol a moesegol a oedd yn newid yn gyflym bryd hynny. Erbyn hyn, wrth gwrs, ac yng nghyfnod ôl-fodernaidd yr '80au a'r '90au, mae nodweddion seciwlar - a syniad o gelfyddyd fel cynnyrch - fel petaen nhw wedi cael eu hail-sefydlu. Yn ystod y 1970au, roeddem ni'n barod i gydnabod y datblygiad hwn yn yr iaith weledol ond roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n hanfodol hefyd i artistiaid a oedd yn gweithio ag arddulliau mwy traddodiadol allu dangos eu gwaith yn Chapter. Roeddem ni mor benderfynol bob tamaid o gynnig cyfleusterau stiwdio a mannau arddangos er mwyn cadw artistiaid Cymreig ifainc yng Nghymru.

G.A. Mae hi'n rhyfeddol bod Chapter yn dal i fodoli fel canolfan gelfyddydol ym 1999 ac mae hynny, heb sôn am unrhyw beth arall, yn deyrnged ryfeddol i'ch gwaith chi a Bryan Jones a Mik Flood. Mae datblygiad Chapter yn teimlo i mi fel rhyw fath o ddogfen gymdeithasegol, tyst i'r ffordd y mae'r celfyddydau wedi brwydro i oroesi yn erbyn biwrocratiaeth gynyddol dros y blynyddoedd.

Tybed beth yw'ch teimladau chi wrth i chi ystyried y weledigaeth wreiddiol a'r ffordd y mae Chapter yn gweithredu erbyn hyn?

C.K. Fe adewais i Chapter ym mis Awst 1976 ar adeg pan oeddwn i'n teimlo bod angen ffordd wahanol o reoli'r lle ac ynni newydd a fyddai'n cynnig arweiniad mewn cyfnod newydd. Ac roeddwn i'n awyddus i ganolbwyntio ar fy ngwaith fy hun, fel artist. Roedd Paul Chandler wedi dod i weithio yn Chapter erbyn hynny ac roedd ei wybodaeth greadigol a'i empathi ef, ynghyd â'i arbenigedd ariannol, yn hollbwysig o ran gwreiddio Chapter yn y math o systemau ariannol a alluogodd i'r ganolfan ffynnu'n barhaol. Wrth gwrs, gwelwyd llawer o newidiadau dros y blynyddoedd ond, yn fy marn i, mae hi'n hanfodol bwysig bod Chapter yn ymateb i newidiadau gwleidyddol ac yn annog y Cynulliad i gynnwys artistiaid o bob disgyblaeth yn y broses o greu polisïau er mwyn sicrhau effeithiau a chanlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru. Mae hi hefyd yn hanfodol i lwyddiant Chapter yn y dyfodol bod y ganolfan yn parhau i roi blaenoriaeth i artistiaid o bob disgyblaeth sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi gwaith o ddiwylliannau eraill.

Mae esblygiad Chapter fel catalydd ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru wedi'i seilio ar ethos syml: pobl greadigol yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni un nod cyffredin - sef cynhyrchu celfyddyd o'r ansawdd uchaf a sicrhau bod y gwaith hwnnw ar gael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i gynulleidfa mor eang â phosib, fel ein bod yn parhau i archwilio ac ehangu ein dealltwriaeth o'r broses greadigol ac ymateb i'r Zeitgeist mewn chwyldro o newid parhaol.

 

Newyddion Chapter

  • e-amserlen Chapter

    Cofrestrwch i dderbyn yr e-amserlen wythnosol.

    More info

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×