Ensemble Cymru: Anniversary Finale

dydd Gwener 4 Mai

NEGES BWYSIG

The event has already taken place. You can enjoy this archived content, but you can no longer book tickets.

Ensemble Cymru: Anniversary Finale

Ar ôl 15 mlynedd o greu cerddoriaeth, mae ein ensemble mwy o faint yn galluogi rhaglen drawiadol ar gyfer mis Mai 2018 sy’n wirioneddol amrywiol o ran amser a lleoliad. O Gymru, mae’n bleser mawr gennym berfformio gweithiau gan ddau gyfansoddwr byw: comisiwn newydd sbon gan Gareth Glyn, ac Emerging (lightly) gan Rhian Samuel o Aberdyfi.

O’r ugeinfed ganrif, cawn y perl na pherfformir mohoni’n aml, Nonet, gan y cyfansoddwr mawr o Loegr, Arnold Bax, ynghyd â Dawnsfeydd Debussy i’r Delyn a Phumawd Llinynnol, a gyfansoddwyd i ‘arddangos’ y delyn. O fynd yn ôl i 1738, mae concerto Handel Op. 4, Rhif 6 i’r Delyn yn tynnu ar ymron i’r cyfan o’r grymoedd offerynnol amrywiol sydd gennym y tymor cyffrous hwn.

Y Rhaglen

Cerddoriaeth i’r ffliwt, obo, clarinét, telyn, ffidlau, sielo a bas dwbl

Claude Debussy – Dawnsfeydd i’r Delyn a Phumawd LlinynolArnold Bax – NonetGareth Glyn – I’r Pedwar Gwynt (comisiwn newydd i Ensemble Cymru).Handel – Concerto i’r Delyn Rhif 6Rhian Samuel – Emerging (lightly) i Fiola Solo ac Ensemble Siambr

Tocynnau: £10/£8/£3 

Hyd: 90mun 

 

Goleuni ar Gyfansoddwr - cerddoriaeth Gareth Churchill

6pm - Hyd: 30 mun

Perfformiadau o dri o weithiau unawdol i'r cello, y bas dwbl a'r delyn, gyda rhagymadrodd gan y cyfansoddwr.

Rhoddion at waith Ensemble Cymru gyda Chyfansoddwyr yng Nghymru.

Hyrwyddwyd gan Ensemble Cymru & Cyfansoddwyr Cymru.

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×