Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

  • CY
  • Ffilmiau Teulu am Ddim

Ffilmiau Teulu am Ddim

Ffilmiau am Ddim i’r Teulu

Mae ein Ffilmiau am Ddim i’r Teulu yn rhoi cyfle i chi ymweld â’n sinema a mwynhau dangosiad am ddim gyda’ch gilydd.

I unrhyw un sy’n methu archebu ar-lein na dros y ffôn, rydyn ni’n cadw rhai tocynnau ac yn eu rhyddhau ar ddiwrnod y dangosiad. Rydyn ni’n eu rhyddhau ar sail cyntaf i’r felin, felly allwn ni ddim gwarantu y bydd tocyn i chi.

 

Nodwch fod lefelau sŵn ein ffilmiau teulu ddim yn briodol am fabanod dan 12 mis oed. Rydyn ni'n cynnal dangosiadau ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch (Rhiant a Babi) am rieni / gwarcheidwaid hefo babanod 12 mis neu lai, sy'n gweithredu a lefelau sŵn is sy'n addas i glustiau bychan.

Nodwch: Mae ein Ffilmiau am Ddim i’r Teulu yn boblogaidd iawn, ac mae pob tocyn yn mynd yn gyflym gyda rhestrau aros hir. Os na allwch chi ddod ar y diwrnod, gofynnwn yn garedig i chi ein ffonio er mwyn i ni allu rhyddhau eich tocynnau, er mwyn i deulu arall allu mwynhau treulio amser gyda’i gilydd yn gwylio ffilm.

Os gallwch gefnogi ein gweithgarwch, mae cyfrannu at Chapter yn ein galluogi ni i barhau i raglennu ffilmiau am ddim i’r teulu, gweithdai, a phecynnau cinio i blant yn ogystal â chefnogi ein Pantri Cymunedol. Diolch o galon am eich cefnogaeth.

Amount to Donate £
Donation added to basket.
Failed, please try again.