Go Faster Stripe: Andy Zaltzman and Helen Keen

dydd Llun 8 Rhagfyr

NEGES BWYSIG

The event has already taken place. You can enjoy this archived content, but you can no longer book tickets.

Go Faster Stripe: Andy Zaltzman and Helen Keen

Mae Go Faster Stripe yn falch o gyflwyno dwy sioe gomedi anhygoel newydd a fydd yn cael eu recordio ar gyfer cynhyrchiad DVD ar yr un noson. Bydd y noson fel fersiwn fechan o ŵyl Caeredin ar nos Lun yn Nhreganna – a'r cyfan am ddim ond £10.

Andy Zaltzman

Bydd Andy Zaltzman, hanner o ddeuawd nodedig y podlediad byd-enwog The Bugle, gyda John Oliver, yn mynd i'r afael â materion sy'n cynnwys Y Byd a phob peth cysylltiedig yn ei recordiad DVD cyntaf.

Yn ddychanwr a chelwyddgi nodedig, mae Zaltzman - seren 7 Day Sunday ar 5 Live, a'r chwaer-raglen, 7 Day Saturday, a chyfrannwr i raglenni amrywiol ar Radio 4 ac ambell raglen deledu hefyd - wedi perfformio 'stand-up' ym mhob un o brif hemisfferau'r blaned a phedwar o'i chyfandiroedd gorau hefyd.

Helen Keen - It Is Rocket Science!

Mae 'Helen Keen's It Is Rocket Science!' yn sioe gyllideb isel hynod wreiddiol sy'n archwilio gorffennol a dyfodol teithio i'r gofod. Yn ffeithiol gywir ac yn ddoniol iawn, mae'r sioe'n cynnwys holl anferthedd y bydysawd ond yn hepgor pob un o'r darnau diflas! Mae'r sioe yn cynnwys Natsïaid o'r Gofod! Addolwyr Satan! A Pheirianwyr Awyrennol! Bydd 'It Is Rocket Science!' yn eich harwain ar daith frys drwy hanes y Meddylwyr Mawr a anfonodd fwncïod, foneddigesau, cŵn a boneddigion i'r gofod. Hyd yn hyn, llwyddodd y sioe fyw i lansio tair cyfres nodedig a gwobrwyol ar BBC Radio 4.

£10

"Probably the best satirical comic we've produced in the last two decades. Intelligent, biting and silly"
The Times on Andy Zaltzman
"Harnessing a sharp comedy sensibility to an arsenal of fascinating facts, she's a treat for anyone who matches a sense of humour with an inquiring mind."
The Guardian on Helen Keen

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×