Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
  • CY
  • Gwyl Animeiddio Byr Caerdydd 2023

Gwyl Animeiddio Byr Caerdydd

Sut mae Tocynnau Gŵyl yn gweithio?

Mae eich Tocyn Gŵyl yn rhoi mynediad i holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb Gŵyl Animeiddio Caerdydd y mae angen tocynnau ar eu cyfer yn Chapter.

Fel deiliad tocyn, bydd modd i chi fewngofnodi i’ch cyfrif drwy wefan Chapter ac archebu tocyn i unrhyw ddigwyddiad hoffech chi, a hynny am ddim gyda’ch tocyn gŵyl. Gallwch wneud hyn unrhyw bryd ar ôl prynu’r tocyn gŵyl – ond rydyn ni’n cynghori y dylech archebu cyn gynted â phosib, er mwyn osgoi cael eich siomi gan y bydd pob tocyn yn gwerthu i ddigwyddiadau!

 

Beth os bydda i’n newid fy meddwl ar ôl casglu fy nhocynnau?

Os na allwch chi ddod i ddigwyddiad ar ôl i chi gasglu tocyn ar ei gyfer, rhowch eich tocyn yn ôl i Chapter cyn gynted â phosib. Gallwch wneud hyn drwy anfon e-bost at ticketing@chapter.org, eu ffonio nhw drwy +44 (0)29 2030 4400 neu fynd i’w Desg Wybodaeth ar y safle i roi gwybod iddyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd modd ail-ryddhau’r tocyn er mwyn i rywun gael ei ddefnyddio.

Os byddwch chi’n penderfynu eich bod eisiau mynd i ddigwyddiad ond nad ydych chi wedi archebu tocyn ymlaen llaw, gallwch fynd i Swyddfa Docynnau Chapter a chasglu tocyn am ddim ar gyfer y digwyddiad hwnnw gyda’ch Tocyn Gŵyl, os bydd tocynnau ar ôl.

 

Beth os bydd digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn?

Mae angen i bob deiliad tocyn fod yn eu seddi 5 munud cyn i’r digwyddiad/dangosiad ddechrau, oherwydd os bydd y digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn, byddwn ni’n caniatáu i ddeiliaid tocyn gŵyl gymryd unrhyw sedd wag ar sail cyntaf i’r felin.

 

Alla i brynu tocynnau i ddigwyddiadau unigol os nad ydw i eisiau tocyn gŵyl llawn? Gallwch - mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol ar werth nawr yma.

 

Dim ond am ddiwrnod bydda i’n dod – alla i brynu tocyn diwrnod?

Allwn ni ddim cynnig tocynnau diwrnod, felly os mai dim ond am ddiwrnod neu ddau o’r ŵyl gallwch chi ddod, rydyn ni’n argymell prynu tocynnau unigol ar gyfer pob digwyddiad hoffech fynd iddo. Mae’r rhain ar gael yma.

 

Faint yw tocynnau unigol?

Rydyn ni’n cadw pris ein holl docynnau mor isel â phosib er mwyn gwneud digwyddiadau Gŵyl Animeiddio Caerdydd mor hygyrch â phosib. Bydd tocynnau pris llawn i ddigwyddiadau unigol yn £6, a phris tocynnau consesiwn yn £4. Mae gweithgareddau am ddim y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw drwy gydol yr ŵyl hefyd.

 

Archebion Grŵp

Os byddwch chi’n dod i Ŵyl Animeiddio Caerdydd fel rhan o grŵp prifysgol neu grŵp mawr o 10 person neu fwy, cysylltwch â ni i holi am ostyngiadau grŵp. Anfonwch e-bost at festival[at]cardiffanimation[dot]com, gan sôn ychydig am eich grŵp a faint o bobl rydych chi’n disgwyl bydd yn dod.