Gwyliau Haf Gwallgo gyda’r Minions!

dydd Llun 24 Gorffennaf - dydd Gwener 28 Gorffennaf

NEGES BWYSIG

The event has already taken place. You can enjoy this archived content, but you can no longer book tickets.

Gwyliau Haf Gwallgo gyda’r Minions!

Diwrnod Gweithgareddau Ffilm: Despicable Me 3 (U)

Sad 22 Gorffennaf 10.30am–3.30pm

Diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau creadigol sydd hefyd yn cynnwys dangosiad o ffilm. Gweithgareddau ymarferol fel animeiddio ‘stop-motion’, dylunio ac adeiladu, gwneud modelau, gêmau, posau a llawer mwy. Hwyl, gemau a bananas!

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda.

Cost: £22 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm)

Addas i blant 8+ oed

 

‘Sewcial’ Ffilm: Despicable Me 3 (U)

Sul 23 Gorffennaf 10.30am–3.30pm

Dewch i wylio ffilm ac i gael eich ysbrydoli yn ‘Sewcial’ yr haf. Bydd cyfranogwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau gwnïo a hynny mewn ffordd hwyliog mewn gweithdai gwnïo dwy awr o hyd ar ôl ffilm. Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu bwythwyr canolradd 8-12 oed sydd am wneud eu tegan Minions eu hunain.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda.

Cost: £22 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm)

Addas i blant 8+ oed

 

Gweithdai Galw Draw ‘Gwneud Minions’

Sul 23 - Maw 25 Gorffennaf 10am–11am + 2pm–3pm

Dewch i wneud Minions cardfwrdd, mwclis Minions, llyfrnodau Minions neu freichledau arbennig.

£1 am bob gweithgaredd

Addas i blant 4+ oed

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×