Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Croeso i Ganolfan y Celfyddydau Chapter. Mae ganddon ni lawer o ddigwyddiadau, ffilmiau, perfformiadau, ac arddangosfeydd ar eich cyfer chi yn ystod y misoedd nesaf. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael diweddariadau, newyddion a rhestriadau sioeau yn syth i’ch mewnflwch.

  • CY
  • Haf o Gerddoriaeth

Haf o Gerddoriaeth | Gorffennaf - Awst 2021

Rydyn ni i gyd yn gweld eisiau cerddoriaeth fyw yr haf yma, ac felly rydyn ni’n cynnig profiadau ardderchog y gallwch eu mwynhau o sedd y sinema!

Mae ganddon ni ffilmiau newydd a chyffrous, gan gynnwys Summer of Soul ac In the Heights, a digwyddiadau arbennig fel sesiwn holi ac ateb wedi’i recordio ymlaen llaw gyda Ron a Russell Mael (The Sparks Brothers).

Byddwn ni’n dathlu bywyd y cerddor chwedlonol David R. Edwards a mwy o ddoniau o Gymru gyda sesiwn holi ac ateb wyneb yn wyneb gydag Andy Stewart (Do Not Go Gentle: A Film About Idles) a gig wedi’i ffrydio’n fyw o Glwb Ifor Bach.