Icaris Duo: Flute and Guitar

dydd Gwener 26 Gorffennaf

Tocynnau

Icaris Duo: Flute and Guitar

Dechreuodd y ffliwtydd Vicky Guise a'r gitarydd Will Browne berfformio fel deuawd yn 2010 tra yr oeddent yn cwblhau graddau Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ers hynny, mae'r deuawd Icaris Duo wedi prysur sefydlu eu hunain fel ensemble aml-bwrpas a dynamig sydd wedi cyfleu eu cerddoriaeth yn ystod eang o leoliadau. Maent wedi'u cynnwys yng nghynllun cerddoriaeth fyw Live Music Now ac yn fwy diweddar, Cynllun Cerddoriaeth Gofal ac Ysbytai.  Wedi iddynt raddio, derbyniodd y ddeuawd y Wobr June Emerson Launchpad gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn hefyd dderbyn gwobr Stiwdio Acapela.  Maent wedi cael eu mentora gan - yn ogystal â pherfformio efo - rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus y byd gan gynnwys Carla Rees, Sarah Newbold, John Mills, Chris Stell o'r deuawd Eden Stell Duo, a Lenny Sayers o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y  BBC.  Gwahoddwyd Icaris i berfformio fel rhan o gyngherddau amser cinio Eglwys St Martin-in-the-Fields, yn ogystal â Gŵyl Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, Canolfan Celfyddydau Sain Dunwyd, Gŵyl Ryngwladol Ffliwt Arcomis, Gŵyl Gelfyddydau Thornbury a Gŵyl Gitâr Caerdydd 2017. Mae Icaris hefyd yn mwynhau cydweithio gyda chyfansoddwyr er mwyn creu gwaith newydd ar gyfer eu ensemble, sydd wedi arwain at nifer o berfformiadau première yn y Deyrnas Gyfunol.

Tocynnau

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×