Lleoliad: Oriel
Dyddiad: dydd Mercher 1 Mai - dydd Sul 30 June

Maurizio Anzeri: But It's Not Late It's Only Dark

NEGES BWYSIG

You can enjoy the content we have for this event but you can no longer book online for this event.

Maurizio Anzeri: But It's Not Late It's Only Dark

Oriel

Mae arddangosfa unigol gyntaf Maurizio Anzeri yng Nghymru yn cynnwys gweithiau comisiwn sy’n cael eu cyflwyno am y tro cyntaf, ar y cyd â detholiad o’i ddarnau ‘ffoto-gerfluniol’ nodedig.

Mae Anzeri yn defnyddio ffotograffau hapgael a brodwaith i greu darnau cerfluniol cynnil sy’n rhoi hunaniaethau newydd, cymhleth a dirgel i ddieithriaid. Mae Anzeri’n gweld portreadau ffotograffig fel tirweddau ac yn eu harchwilio er mwyn gosod haenau ei fapiau ei hun arnynt ac i ddyfeisio’r hyn y mae’n ei alw’n “ddimensiynau esblygiadol eraill i’r bobl yn y lluniau”. Mae labyrinthau o ffurfiau a lliwiau yn creu daearyddiaeth ddiddorol â wynebau, hanesion ac eneidiau — a llygaid sy’n syllu’n enigmatig drwy eu ‘mygydau’. Ochr yn ochr â’r ffordd sefydledig hon o weithio, bydd Anzeri’n dangos gweithiau newydd sy’n defnyddio brodwaith a ffotograffiaeth bersonol i greu gofodau dychmygol neu seicolegol; realiti preifat sy’n troi’n ffantasi cyhoeddus.

Mae diddordeb Anzeri mewn ffurfiau cerfluniol, y corff a hunaniaeth, rhywiau a ffiniau seicolegol hefyd i’w weld mewn cyfres o ddarnau cerfluniol morffolegol wedi’u gwneud o wallt synthetig. Wedi’u hysbrydoli gan ffynonellau lluosog — o Mrs Dalloway Virginia Wolfe i ddiwylliannau totemaidd, Versailles yr 17eg ganrif a haute couture — mae’r gosodiadau yn cynnwys cyfres o gerfluniau, pob un yn cynrychioli personoliaeth wahanol, sy’n bodoli rhywle rhwng theatr a ffetis.

Bywgraffiad yr Artist

Ganwyd Maurizio Anzeri yn Loano, Yr Eidal ym 1969. Astudiodd am radd BA yng Ngholeg y Celfyddydau Camberwell ac am radd MFA yn Ysgol Gelf y Slade. Mae’n byw yn Llundain.

Caiff ei waith ei arddangos yn rhyngwladol ac mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Canolfan Celfyddyd Gyfoes BALTIC, Gateshead, DG (2011); ‘The Party Garden’, Fforwm Q, Llundain, DG; ‘LUNATICO’, Oriel Rupert Pfab, Dusseldorf, yr Almaen; ‘Darwin’s Tears’, Oriel Luce, Tiwrin, yr Eidal (pob un yn 2010); ac ‘I will buy the flowers myself’, Riflemaker, Llundain, DG (2009). Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Prosiect Gwadd, Ffair Gelfyddydau Shanghai, Shanghai, Tsieina (2012), ‘Version and Diversions’, Oriel Temple Bar, Dulyn (2011) a ‘One Night in Paris’, Oriel y Ffotograffwyr, Llundain, y DG (2009). Mae ei waith yn rhan o gasgliadau ledled y byd gan gynnwys casgliadau Saatchi, Gagosian, Rothschild a Chasgliad Alexander McQueen.

Image: Maurizio Anzeri, Profile Blue, 2012. Brodwaith ar ffotograff. © Maurizio Anzeri, gyda chaniatâd y casglwr preifat.

"Anzeri’s craft blurs the boundaries between photography, sculpture and needlework"
Photomonitor
"Anzeri has found an aesthetically pleasing way of subverting the subject and unnerving the viewer, masking, veiling and revealing in one fell swoop"
This is Tomorrow

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×