Mynediad i bobl anabl

Mae Chapter yn fan cwbl hygyrch – mae yna fynediad gwastad i'r adeilad drwy ddrysau awtomatig a lifft sy'n arwain at y llawr cyntaf. Mae gan y ddwy sinema fannau i gadeiriau olwyn, yng nghefn Sinema 1 (mynediad â lifft-grisiau), ac ar flaen Sinema 2 (mynediad gwastad). Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 i archebu lleoedd cadair olwyn. Mae cyfleusterau toiled i gwsmeriaid anabl ar y llawr gwaelod ac ar y llawr cyntaf ac mae mannau parcio penodol i ddefnyddwyr anabl yn y maes parcio yn y cefn.

Dangosiadau ag Is-deitlau Meddal

Mae Is-deitlau Meddal wedi'u bwriadu ar gyfer y rheiny â nam ar eu clyw ac maent yn darparu mwy o wybodaeth na'r is-deitlau Saesneg a ddangosir ar ffilm mewn iaith dramor, er enghraifft. Maent yn nodi pan fydd geiriau'n cael eu canu yn hytrach na'u llefaru; pan fydd yna gerddoriaeth benodol yn chwarae (maent hefyd yn nodi geiriau'r gân), a phan glywir effeithiau sain pwysig hefyd (ffôn yn canu, er enghraifft). Caiff Is-deitlau Meddal eu hysgrifennu a'u cynhyrchu ar ddisg ar wahân sy'n rhedeg ar y cyd â'r print ffilm yn y sinema. Yn anffodus, nid yw Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer pob ffilm - mae eu bodolaeth yn dibynnu ar y dosbarthwyr ffilm. Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddangos amrywiaeth o ffilmiau ag Is-deitlau Meddal yn rhan o'n rhaglen. Rhestrir y dangosiadau hyn yn y cylchgrawn â symbol SS.

Gwelir rhestr o ddangosiadau gydag Is-deitlau Meddal isod. 

Dangosiadau gyda Disgrifiadau Sain 

Mae Disgrifiadau Sain yn draciau ychwanegol ac yn cynnwys naratif sy'n disgrifio digwyddiadau ar y sgrin. Mae yna ddarpariaeth ar gyfer Disgrifiadau Sain yn y ddwy sinema, i ymwelwyr â golwg ddiffygiol. Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen we hon gan yr RNIB. Mae dolen sain gennym hefyd yn Sinema 1. Rhestrir dangosiadau â Disgrifiadau Sain yn y rhaglen ger y symbol AD. 

 

Dangosiadau Addas I Bobl  Dementia

Mae Chapter yn ymdrechu i wneud rhaglen y ganolfan yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw gyda dementia. Yn rhan o'r prosiect hwn, hoffem wahodd unrhyw un sy'n byw gyda dementia i ddangosiad arbennig o Dad's Army am 10.30am ar 18 Mawrth 2016 yn Sinema 1. A byddem yn falch iawn pe baech chi'n ymuno â ni ar ôl y dangosiad am sesiwn adborth anffurfiol. Darperir lluniaeth ysgafn.

Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i bobl sy'n byw gyda dementia fwynhau dangosiad o Dad's Army mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol ac i gael profiad uniongyrchol o'r gwaith y mae Chapter yn ei wneud i geisio gwneud y ganolfan yn fwy addas i bobl â dementia.

Yn sgil y digwyddiad hwn, mae Chapter yn gobeithio datblygu perthynas y ganolfan â chynulleidfaoedd a chymunedau ehangach, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth yn ogystal â gwneud y ganolfan a'i rhaglen yn fwy hygyrch.

Yn yr hir-dymor, byddem yn hoffi trefnu dangosiadau rheolaidd i bobl â dementia ynghyd â digwyddiadau arbennig a sesiynau adborth achlysurol. Rydym yn awyddus i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu gweddill ein rhaglen, i addasu a gwella ein cyfleusterau ac i ddatblygu pecyn cymorth y gellir ei gynnig i ganolfannau eraill sydd am wneud peth tebyg.

Mae'r dangosiadau hyn ar agor i bobl sy'n byw gyda dementia h.y. y rheiny sydd wedi cael diagnosis o dementia ynghyd â theuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr. Bydd yna groeso cynnes hefyd i weithwyr elusennol, gweithwyr meddygol proffesiynol, staff cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth.

I archebu tocyn, ffoniwch ein Swyddfa Docynnau - 029 2030 4400. Neu anfonwch e-bost at gydlynydd y prosiect, ellie.russell@chapter.org

 

Dangosiadau Hamddenol

Mae’r dangosiadau hyn wedi eu bwriadu ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar newidiadau cynnil i awyrgylch yr awditoriwm. Caiff ffilmiau eu dangos â goleuadau ychydig yn fwy llachar nag arfer, bydd lefel y sain yn is ac ni ddangosir trelars neu hysbysebion. Bydd rhwydd hynt i bobl godi a symud o gwmpas y sinema neu i wneud sŵn fel y dymunant. Bydd staff Chapter wrth law i helpu os bydd angen cymorth pellach arnoch. Dim seddi cadw. Pris tocyn arferol.

 

Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig

Mae Dangosiadau Mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â'u teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac nid yw lefel y trac sain mor uchel ag arfer. Nid oes hysbysebion cyn y ffilm ac mae perffaith ryddid i ymwelwyr godi a symud o gwmpas y sinema.

Mae Sinema Chapter yn gweithio ar hyn o bryd i ddatblygu dangosiadau o'r fath ac i wella ein cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr sy'n fyddar, yn ddall, yn drwm eu clyw neu a chanddynt olwg ddiffygiol. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at freya.dooley@chapter.org os gwelwch yn dda. 

"Doedd dim angen poeni am blentyn yn crio neu'n ymddwyn yn amhriodol - a dim ond ar ôl i mi gyrraedd adref y sylweddolais nad oeddwn i wedi bod dan straen o gwbl yn ystod y dydd ac nad oedd yr un o'r teuluoedd eraill i'w weld dan straen chwaith. Dw i'n siŵr i hyn gael effaith gadarnhaol ar y plant. Roedd yn brofiad arbennig iawn i'r teulu cyfan."

Dyfyniad gan Riant

 

Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema 

Rydym yn derbyn Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema - www.ceacard.co.uk - a gallwn gynnig tocyn rhad ac am ddim i'ch cydymaith neu ofalwr ar gyfer ffilmiau. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ein Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400. 

 

Hynt

Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo. Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. 

Cerdyn Aelodaeth yw Hynt - Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

Adnodd yw Hynt - Mae www.hynt.co.uk a www.hynt.cym yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad a’r celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad.  Byddwn yn hapus i esbonio’r cynllun yn llawn a’n rhan ni ynddo. Os hoffech siarad ag aelod o staff, cysylltwch â Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400. 

Newyddion Chapter

  • MARCHNAD OH SO FESTIVE – GALW AM GEISIADAU

    02 Hyd 2018

    Dydd Sadwrn 8 a Dydd Sul 9 o Ragfyr, 11yb – 6yhY flwyddyn hon mae Ffair Fwyd Nadolig ac Oh So Crafty yn cyfuno i greu Marchnad Oh So...

  • National Lottery Cinema Day

    21 Medi 2018

    Did you know every time you play The National Lottery you’re supporting British film as well as community projects in your local area...

  • e-amserlen Chapter

    Cofrestrwch i dderbyn yr e-amserlen wythnosol.

    More info

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×