
Chapter Queer Film Prize 2025
- Published:
Mae ceisiadau ar gyfer Gwobr Ffilm Fer Gwiar Chapter 2025 nawr ar agor!
Fis Mehefin, rydyn ni’n dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru. Mae Chapter yn bartner enwebu ar gyfer Ffilm Fer Orau Prydain yr Iris Prize, ac rydyn ni’n chwilio am ffilm fer LHDTCRhA+ i’w henwebu o’n rhanbarth ni.
Bydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos mewn dangosiad arbennig MovieMaker Chapter ar 4 Mehefin, a bydd y ffilm sy’n cael ei dewis gan Chapter yn rhan o raglen Goreuon Prydain yng Ngŵyl Gwobrau Iris ac yn cael ei dangos ar Channel 4 a Film4.
Y dyddiad cau yw dydd Llun 19 Mai. Anfonwch gyflwyniadau i moviemaker@chapter.org. Dylent fod yn ffeiliau .mp4 neu .mov ansawdd-HD, neu’n DCP.
Mae’r telerau llawn i’w hystyried ar gael yma.
Mae’r tocynnau am ddim ac rydyn ni’n argymell archebu ymlaen llaw (dolen yn y bio). Gallai’r rhaglen gynnwys deunydd cryf sydd ond yn addas i bobl dros 18 oed.
___
Rheolau categori
- Mae’n rhaid i bob cais fod yn 39 munud neu lai, a dylai fod am, ar gyfer, neu o ddiddordeb i gynulleidfaoedd lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol neu ryng-ryw, ac mae’n rhaid ei bod wedi’i chwblhau o fewn y ddwy flynedd cyn y dyddiad cau (rhwng 1 Mehefin 2023 ac 1 Mehefin 2025).
- Mae’n rhaid i bob cais ddod o Gymru.
- Derbynnir pob math o ffilm, gan gynnwys gwaith animeiddio a dogfennol.
- Nid oes cyfyngiadau o ran ffilmiau byrion sydd ar gael ar-lein, neu sydd wedi bod ar gael ar-lein, neu sydd wedi’u darlledu ar y teledu.
Er gwybodaeth
- O blith y ffilmiau a gyflwynir, byddwn yn llunio rhestr fer a fydd yn cael ei harddangos yn nangosiad Gwobr Ffilm Cwiar Chapter ar 4 Mehefin, a bydd y rhaglen derfynol yn cael ei datgelu ddydd Gwener 23 Mai.
- Bydd enillydd Gwobr Ffilm Cwiar Chapter yn rhan o raglen Goreuon Prydain Gwobr Iris. Bydd pob ffilm sy’n cyrraedd rhestr fer Goreuon Prydain Gwobr Iris 2025 yn cael dêl ddosbarthu ail ffenest gydag OUTflix / OUT Media Group ar lwyfannau byd-eang OUT Media Group, am chwe blynedd ar ôl i ffenestr Channel 4 ddod i ben. Bydd gofyn i’r gwneuthurwyr ffilm ddynodi’r hawliau canlynol i OUT Media Group: Hawl anghyfyngedig i OUT Media Group arddangos y ffilm ledled y byd ar lwyfannau OMG am chwe blynedd ar ôl i drwydded Channel 4 ddod i ben.