DATHLU EIN HANNER CAN MLWYDDIANT
Heddiw mae ein pen-blwydd yn hanner cant! Agoron ni yn 1971 fel y safle celfyddydau aml-gyfrwng cyntaf yng Nghymru. Cliciwch y botwm isod i ddysgu mwy am sut dechreuon ni, a sut rydyn ni wedi cyrraedd ble ydyn ni heddiw.
Er na allwn ni ddod â phawb ohonoch at eich gilydd am barti mawr fel y bwriadwyd, byddwn ni’n dathlu ein hanner can mlwyddiant tan fis Ebrill nesaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig – gan ddechrau gyda rhaglen anhygoel i’w mwynhau o’ch cartref y mis yma...
DIGWYDDIADAU O GARTREF...
AR GYFER POBL IFANC
CYSTADLEUAETH GWAITH CELF PLANT: GALWAD I YSGOLION | Dyddiad cau: 16 July 2021
Er mwyn nodi ein pen-blwydd arbennig, rydyn ni’n dathlu creadigrwydd ein plant a’n pobl ifanc. Rydyn ni’n gwahodd disgyblion rhwng 5 ac 16 oed i gyflwyno darlun, paentiad neu ludwaith i gystadleuaeth, er mwyn creu gwaith celf enfawr a fydd yn cael ei arddangos ar flaen Chapter i’r cyhoedd ei weld! Y thema yw ‘Cardiau Post o'r Dyfodol’.
CLWB LLYFRAU AR OL YSGOL RHITHIOL | Dydd Mawrth, 20 Ebr - 18 Mai, 4.15pm
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig clwb ar ôl ysgol i chi gyda Sophie Warren. Bydd yn cael ei gynnal ar Zoom, a bydd Sophie a’r Robot Llyfrau yn darllen straeon hwyliog ac yn chwarae gemau gwirion! Mae’r sesiynau yma wedi’u hanelu ar gyfer plant rhwng 4 a 7 oed, ac mae’r sesiynau wythnosol byr yn fywiog, yn anffurfiol ac yn greadigol. Caiff pob llyfr ei ddewis yn ofalus i gyd-fynd â thema wythnosol, gan archwilio’r byd amrywiol rydyn ni’n byw ynddo.
Mwy o wybodaeth ac archbeu nawr
YN YR ORIEL
ARTES MUNDI: ARDDANGOSFA RHITHIOL | Tan 5 Medi
Rydyn ni wrth ein boddau o weld bod Artes Mundi 9 wedi lansio fersiwn ddigidol o’i harddangosfeydd. Mae Artes Mundi 9 yn arddangos gwaith gan chwe artist cyfoes rhyngwladol ar draws tri lleoliad: Chapter, g39 ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gobeithio y bydd modd i chi ddod i’w gweld yn y cnawd yn fuan, ond yn y cyfamser gallwch fwynhau’r holl waith ar-lein, gyda fideos tywys, sgyrsiau am ddim, a mwy.
Gweld yr arddanosgfeydd ar-lein
Yn Chapter...
DINEO SESHEE BOPAPE | Oriel
CARRIE MAE WEEMS | Celf yn y Caffi
COMEDI
ROBIN MORGAN & FFRINDIAU | Iau 29 Ebrill, 8pm
+ Bydd capsiynau byw ar gael ar gyfer y perfformiad yma
Ymunwch â ni yn y noson gomedi rithiol nesaf gyda’r digrifwr Robin Morgan a’r hynod ddoniol Kiri Pritchard-McLean (enillydd pum Gwobr Chortle, ymddangosiadau ar Have I Got News For You, Stand up Central, 8 Out of 10 Cats Does Countdown a Would I Lie To You?). Os hoffech fod yn y Zoom gyda’r digrifwyr, dewiswch docyn ‘rhes flaen’.
FFILM
MOUTHPIECE (15) | Yn ffrydio nawr
Mae Mouthpiece yn rhoi golwg grymus, doniol a hynod wreiddiol i ni ar y gwrthdaro sy’n digwydd ym mhen menyw filenial ffyrnig o annibynnol.
STRAY (18) | Yn ffrydio nawr
See the world through the eyes and ears of three canine friends, wandering the streets of Istanbul. An intimate portrait of the life of a city and its people, Stray is the ultimate love letter to dogs.
MINARI (12A TBC) | Yn ffrydio nawr
Mewn stori dyner ac ysgubol am yr hyn sy’n ein gwreiddio ni, mae Minari’n dilyn teulu Coreaidd-Americanaidd sy’n symud i fferm fach yn Arkansas i chwilio am eu Breuddwyd Americanaidd eu hunain.
I weld ein rhestr lawn o ffilmiau i’w ffrydio nawr, cliciwch yma. Drwy wylio gyda Chapter, byddwn ni’n derbyn cyfran o incwm rhent y ffilm. Diolch.
PERFFORMIAD
TIM BROMAGE: MAGIC FOR DOGS | Iau 22 Ebrill, 8pm
Tim Bromage sy’n perfformio casgliad o gerddoriaeth a gasglwyd dros ddeng mlynedd o berfformio. Mae’r noson yn cynnwys caneuon gwerin newydd a chyffrous, chwedlau, a deongliadau unigryw o glasuron jazz. Caiff y perfformiad ei gyflwyno o gyfyngiadau moethus sinema wag, ac mae’n argoeli i fod yn noson anarferol a rhyfeddol o gerddoriaeth.
MWY O DDIGWYDDIADAU AR-LEIN...
DRESS UP! JAPANESE ANIMATION
Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i’w gwneud dros wyliau’r Pasg, mae Canolfan Ffilm Cymru yn argymell sesiwn greadigol gyda’r animeiddiwr a’r darlunydd Chie Arai. Dysgwch sut i arlunio mewn mewn gwisg kimono, a heriwch eich hunan i arlunio gwisg draddodiadol eich gwlad chi! Rhan o raglen Gŵyl WOW.
CHAPTER MOVIEMAKER (18+) | Tan 19 Ebrill
Mae Moviemaker Chapter y mis yma yn cynnwys cymysgedd gwych o ffilmiau byrion a sgyrsiau gyda gwneuthurwyr ffilmiau, ynghyd ag uchafbwyntiau lleol gan The Bridge (cywaith diweddar gyda Cables & Cameras ym Mryste). Hefyd, bydd sesiwn holi ac ateb arbennig gyda’r cyfarwyddwr Tinge Krishnan. Ar gael i’w gwylio ar Chwaraewr Chapter tan 19 Ebrill.
REFRAMED WATCH | Mercher 14 Ebrill, 7pm
In 1971 (the year that Chapter began), we have a glimpse into the world around it in Man Alive: Hyde Park. Watch the film with @ReframedFilm on Twitter at 7pm (free on BBC iPlayer). Afterwards, join us on Zoom to discuss your favourite memories of Chapter!
Rydyn ni bellach yn gweini coffi Hard Lines sydd wedi’i rostio’n lleol!
Dewch i’n gweld ni am rywbeth blasus i fynd gyda chi (ar agor bob dydd o 9yb-4yp), a rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl...
Rydyn ni’n falch bod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn llacio, ond tan i ni roi gwybod fel arall, byddwn ni’n aros ar gau heblaw am fwyd a diod i fynd. Rydyn ni’n parhau i wynebu heriau ariannol hirdymor sylweddol, felly os ydych chi mewn sefyllfa i wneud hynny, gallwch roi ar-lein drwy easydonate.org/CHAPTER, neu rhowch £10 drwy anfon neges destun yn dweud CHAPTER i 70191. Diolch.
Conversations