Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Mae Chapter ynghau dros dro. Rydym yn cynnig rhaglen o uchafbwyntiau a newyddion yn ddigidol drwy ein gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Fel elusen cofrestredig rydym yn cynhyrchu dros 80% o’n hincwm ein hunain a gall eich cefnogaeth helpu i ddiogelu dyfodol ein canolfan gelfyddydau. Os gwelwch yn dda cyfrannwch arlein, neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191. Diolch am eich cefnogaeth ac rydym yn edrych mlaen i’ch croesawu chi nol. Darllennwch ein diweddariad Coronafeirws llawn yma

 

Chapter 50 - The Early Years Wedi ei bostio ar 07 Mai 2020

Y flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu ein penblwydd yn 50. I nodi’r achlysur pwysig yma rydym yn edrych nol drwy ein harchif ar rai o’r digwyddiadau, arddangosfeydd, gigs, achlysuron a phobl anhygoel sydd wedi gwneud Chapter yr hyn yw heddiw.

Yr wythnos hon rydym yn dathlu tri sylfaenydd Chapter: Christine Kinsey, Mik Flood a Bryan Jones, wnaeth sefydlu Chapter yn yr 1970au. Gallwch ganfod mwy am sut wnaeth eu dyfalbarhad, egni creadigol a'u gweledigaeth ddod a Chapter yn fyw yma:

Chapter: The Early Years

Diolch i Christine Kinsey / Chapter Archive am y llun

undefined


Oes gyda chi atgofion o Chapter? Bydden ni’n dwli eu clywed! Anfonwch eich sylwadau a’ch delweddau drwy neges uniongyrchol ar Twitter, Facebook neu Instagram neu tagiwch ni yn eich post.

I’n helpu i ailagor a chyrraedd carreg filltir ein 50fed penblwydd, ystyriwch gyfrannu drwy easydonate.org/CHAPTER neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191. Diolch am eich cefnogaeth.

Conversations