LIGHTBOX: Cornelia Baltes, 2018
CHAPTER O ADRE
Gwyliwch WHITE RIOT a cefnogwch sinema Chapter
Enillydd y Ffilm Ddogfen Orau yng Ngwyl Ffilm BFI Llundain mae WHITE RIOT yn dilyn y mudiad Rock Against Racism yn yr 1970au, gan ddatgelu casineb y National Front, oedd yn tyfu ar y pryd, ynghyd â phŵer anhygoel cerddoriaeth, gweithredu a’r dyhead gwirioneddol am newid cymdeithasol ar lawr gwlad.
Diolch i Modern Films, tan y 14 Mehefin, fe fydd rhagddangosiadau rhithiol egsgliwsif . Dewiswch Chapter er mwyn i 50% o’r arian fynd tuag at gefnogi sinema Chapter. Bydd yr arian a godir yn ein helpu i gynllunio rhaglen gyffrous o ffilmiau annibynnol a rhyngwladol pan fyddwn yn gallu ail-agor.
Am ragor o wybodaeth ac i rentu’r ffilm cliciwch y botwm.
Addewid Cefnogi Artistiaid
Yn sgil pandemig COVID-19 mae nifer o artistiaid o bedwar ban byd heb waith ac mae eu arddangosfeydd a’u gwerthiant wedi diflannu neu wedi eu gohirio.
Mewn ymdrech i liniaru rhywfaint ar y straen mae’r artist Matthew Burrows wedi creu yr Addewid Cefnogi Artistiaid gwych #artistsupportpledge. Mae’r cysyniad yn syml: mae artistiaid yn rhoi delweddau o’u gwaith ar werth ar Instagram; dylai’r gwaith ddim fod mwy na £200 (ac yn aml mae nhw dipyn yn rhatach) a gall unrhyw un eu prynu. Pryd bynnag fydd artist yn gwerthu £1000 o waith mae nhw’n addo gwario £200 ar waith artistiaid eraill.
Dyma ambell artist Cymreig - a rhai cyfeillion o fannau eraill.
GRAHAM JONES - Aelod o dîm Chapter sydd fel arfer yn cuddio yn nhywyllwch yr ystafell daflunio. Mae gwaith godidog Graham yn fach, yn llawn lliwiau llachar olew ar ganfas. Dilynwch e ar Instagram Mwy
JON POUNTNEY - Bydd rhai ohonoch yn cofio arddangosfa ffotograffiaeth ddiweddar Jon, 'Waiting For The Light' yn y café bar. Efallai nad oeddech yn gwybod ei fod hefyd yn baentiwr toreithiog a gallwch weld y gwaith sydd ar werth drwy ei ddilyn. Mwy
LOUISE HOPKINS - Artist Cymreig sydd bellach yn yr Alban, mae Louise yn gwneud darluniau a phaentiadau ar bethau sydd eisoes yn cynnwys gwybodaeth – fel mapiau, catalogau a chomics. Ni’n dwli ar ei gwaith diweddar. Ewch i weld. Mwy
ZENA BLACKWELL - Mae paentiadau chwareus a dwys Zena yn edrych ar y busnes gwallgo ac anniben o fagu plant – doniol a drygionus gyda’i gilydd. Edrychwch ar y gwaith. Mwy
KATIE CUDDON - Roedd Katie yn rhan o’n harddangosfa ‘Sticky Intimacy’ nol yn 2016. Mae hi’n brysur yn creu darluniau olew pastel bendigedig ar gyfer ASP. Cymrwch gip. Mwy
ELLIE YOUNG - Artist wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw Ellie ac mae’n gwerthu gwaith gwych wedi’i ysbrydoli gan ffilmiau a’r rhyngrwyd ar ei Instagram Mwy
National Theatre at Home
Ydych chi wedi bod yn gwylio National Theatre at Home? Gwyliwch eu cynyrchiadau hoff, am ddim, ar eu sianel YouTube. Yn ffrydio’r mis hwn mae tri o’n ffefrynau, sydd wedi bod yn Chapter yn y gorffennol:
The Madness of George III, cynyrchiad clodwiw y Nottingham Playhouse o ddrama Alan Bennett a ennillodd wobrau lu gyda Mark Gatiss yn ffrydio tan 18 Mehefin. Watch
Small Island, cynhyrchiad epig y National Theatre wnaeth werthu allan o nofel Andrea Levy sy’n olrhain yr hanes rhwng Jamaica a’r DU o’r Ail Ryfel Byd i 1948. Ffrydio 18 – 25 Mehefin. More
Cewch eich trochi yng nghynhyrchiad The Bridge Theatre o gomedi rhamantus Shakespeare, A Midsummer Night's Dream gyda Gwendoline Christie. Ffrydio 25 June - 5 Gorffennaf. Mwy
Rhaglen Haf LADA
Tan dydd Sul 19 Gorffennaf mae ein ffrindiau yn LADA (Live Art Development Agency) yn cyflwyno rhaglen haf arlein – cynigion wythnosol o sgyrsiau, dangosiadau, cyflwyniadau a digwyddiadau ‘byw’ arlein sy’n defnyddio adnoddau a dyfeisgarwch anhygoel yr artistiaid a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda, o gwmpas ac ar gyfer Celfyddyd Byw.
Mae’r digwyddiadau a chyfleoedd arlein am ddim ac yn newid yn wythnosol. Cadwch olwg ar y rhaglen o weithgareddau sy’n newid yn gyson.
Theatr Iolo: Cystadleuaeth Cyfansoddi Drama i Blant a Phobl Ifanc
Mae Theatr Iolo yn lansio cystadleuaeth cyfansoddi drama ar gyfer plant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru. Mae nhw’n chwilio am awduron ifanc uchelgeisiol rhwng 7 a 16 oed i ysgrifennu drama weiddiol deng munud o hyd. Bydd actorion proffesiynol yn perfformio y dramâu buddugol mewn digwyddiad cyhoeddus yn Theatr y Sherman yn 2021. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 30 Mehefin.
Canolfan Ffilm Cymru: adnoddau arlein a ffilmiau
Mae partneriaid ac aelodau Canolfan Ffilm Cymru yn gweithio’n galed i gynnig adnoddau ac i gyfrannu i sgyrsiau o bwys sy’n digwydd ar hyd a lled y byd:
Lansiodd Into Film eu ganolfan addysgol #BlackLivesMatter, yn cynnig adnoddau sy’n edrych ar hiliaeth a gwrth-pobl dduon ac yn addysgu pobl ifanc ar y brwydrau hanesyddol a modern am gydraddoldeb du drwy gyfrwng hil a ffilm. Mwy o wybodaeth
Ymunwch a Gentle/Radical am noson o ffimiau byrion a thrafodaeth yn edrych ar sut mae hil a gwladychiaeth yn cyd-daro mewn perthynas â chyfiawnder tir. Mae ‘Rethinking The Harvest: Land Justice, Earth Stewardship & The Future of Land, Race, Wales & Liberation’ yn digwydd arlein ar ddydd Sadwrn 20fed Mehefin.Mwy o wybodaeth
I’n helpu i ailagor a chyrraedd carreg filltir ein 50fed penblwydd, ystyriwch gyfrannu drwy easydonate.org/CHAPTER neu i roi £10 tecstiwch CHAPTER i 70191. Diolch am eich cefnogaeth.
Conversations