Updated 8 Ebrill 2020
Yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth fe gaeodd Chapter ei drysau dros dro ar Fawrth 17eg.
Dydyn ni erioed wedi cau ein adeilad fel hyn o'r blaen. Hyd yn oed pan oedden ni’n brysur gyda’r datblygiad cyfalaf enfawr fe wnaethon ni barhau i gomisiynu a chyflwyno celfyddyd a pherfformio, fe wnaethon ni barhau i wasanaethu ein cwsmeriaid teyrngar o’r cafe-bar dros dro ac fe wnaethon ni gyflwyno ffilmiau rhyngwladol ac annibynnol mewn sinemau lle roedd rhaid mynd atyn nhw drwy goridorau dros dro.
Roedd hi mor anodd troi’r allwedd yn y clo, ond dyna oedd y penderfyniad cywir er mwyn diogelu iechyd ein staff, ein cwsmeriaid, artistiaid a gwirfoddolwyr.
Pan gloeon ni’r drysau roedd rhaid rhewi unrhyw gynlluniau ar gyfer ein rhaglen i’r dyfodol. Cafodd hyn effaith anferthol ar bob un o'r artistiaid, perfformwyr a chwmniau sy’n gweithio gyda ni.
Mae hyn wedi cael effaith mawr ar ein tenantiaid stiwdio hefyd. I rai mae eu busnes yn dibynnu ar ddefnyddio offer arbenigol ar y safle, felly mae cau yn golygu nad ydyn nhw bellach yn gallu gweithredu. Mae eraill wedi newid eu harferion gweithio, ond i nifer mae eu bywiolaeth nawr yn y fantol.
Cyn y cloi roeddem yn falch iawn i groesawu mwy na 700,000 o bobl i Chapter bob blwyddyn. Rydym yn ganolfan gymunedol lle mae pobl yn ymgynnull, gweithio a chyfarfod. Rydym yn lle diogel i nifer o bobl fregus ac yn gartref pwysig i’r rhai hynny fyddai, efallai, heb le arall i fynd iddo.
Rydym yn gweithio’n galed y tu ôl y llenni i gyfyngu ar yr effaith ar y cyfan o gymuned Chapter. Rydym hefyd yn parhau i ddod a rhaglen o weithgaredd ac argymhellion cloi oddi wrth ein ffrindiau a’n cyd-weithwyr yn y sector.
I gael y newyddion diweddaraf ewch i’n gwefan neu dilynwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Instagram, Facebook).
Tansygrifwch i’r e-gylchlythyr.
Fe fyddwn wrth gwrs yn parhau i gadw golwg ar gyngor y Llywodraeth a Sefydliad Iechyd y Byd yn ddyddiol. Rydym yn gobeithio gallu agor ein drysau unwaith eto ond i wneud hyn mae angen eich cefnogaeth a’ch cymorth. Rydym yn gwybod bod rhain yn ddyddiau anodd ac ansicr i bawb ond mae pob cyfraniad yn help i sicrhau y byddwn unwaith eto yn guriad calon cymuned greadigol Caerdydd.
I gyfrannu ewch i chapter.org/donations neu tecstiwch CHAPTER i 70191 i roi £10.
Peidiwch cysylltu a’r swyddfa docynnau
Ychydig iawn o staff sydd yn gweithio ar hyn o bryd felly peidiwch cysylltu a’r swyddfa docynnau.
Os oes gyda chi docyn neu docynnau ar gyfer perfformiad neu ddangosiad yn y dyfodol fe fyddwn yn cysylltu a chi drwy ebost i drefnu ad-daliad neu nodyn credyd. Os gwelwch yn dda byddwch yn amyneddgar ac rydym yn gweithio’n galed i gysylltu a phawb.
Os gallwch chi, os gwelwch yn dda ystyriwch gyfrannu cost eich tocyn i’n hymgyrch codi arian. Gyda’r drysau ynghau mae ein gallu i greu incwm wedi dod i ben yn sydyn. Rydym wir eisiau agor ein drysau eto yn y dyfodol a gallai eich cyfraniad wneud gwahaniaeth.
Helpwch i amddiffyn a diogelu dyfodol Chapter
Mae’r cau wedi ein gosod mewn sefyllfa ariannol ansicr iawn. Rydym yn ddibynnol ar incwm sydd wedi’i greu drwy werthiant tocynnau, aelodaeth, cyfraniadau, llogi ystafelloedd a’r cafe bar i gefnogi ein rhaglen artistig a bywiolaeth yr artistiaid, sefydliadau a chymunedau creadigol sy’n gweithio gyda ni bob dydd. Fel elusen gofrestredig rydyn ni wir angen eich help i sicrhau dyfodol ein canolfan gelfyddydol a’r holl waith rydym yn ei wneud.
Os gwelwch yn dda ystyriwch wneud cyfraniad arlein neu tecstiwch CHAPTER i 70191 i roi £10
Edrych ymlaen
Ar adeg fel hyn rydym yn credu bod diwylliant, creadigrwydd a chymuned yn bwysicach nag erioed. Gall y celfyddydau gynnig ffyrdd newydd o gysylltu â’n gilydd – ac rydym yn gweithio’n galed tu ôl y llenni i sicrhau ein bod yn parhau i ddod a newyddion, cyfleoedd a ffyrdd i ymgysylltu drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ac arlein. I gadw mewn cysylltiad tansygrifwch i’r e-gylchlythyr neu dilynwch ni ar cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Instagram, Facebook).
Rydym yn benderfynol o agor ein drysau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny ac yn edrych ymlaen i groesawu pawb yn ôl i’n hadeilad. Yn y cyfamser gobeithio y byddwch i gyd yn cadw yn ddiogel ac yn gofalu am eich gilydd. Diolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth ar yr adeg heriol yma.
Conversations