Gŵyl gelf fyw yng Nghaerdydd yw Experimentica, sy'n annog risg, cydweithio a chyfnewid rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd.
Mae'r ŵyl yn comisiynu ac yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelf fyw, perfformiadau a phrosiectau aml-ddisgyblaethol, ac yn cynnig llwyfan i artistiaid o wledydd Prydain ac yn rhyngwladol ar bob cam yn eu gyrfa, er mwyn iddynt gyflwyno gwaith arbrofol mewn amgylchedd agored a chefnogol.
Ar gyfer gŵyl 2021 (4, 5 a 6 Tachwedd), byddwn ni'n archwilio naratifau ac opsiynau gwahanol i'r arfer; yn cwestiynu ffyrdd cyffredin o feddwl; yn rhoi llais i'r rhai heb gynrychiolaeth ddigonol; ac yn herio ffurfiau presennol o adrodd straeon – gan archwilio democratiaeth, penrhyddid ac awduraeth agored.
BETH RYDYN NI’N CHWILIO AMDANO
Rydyn ni’n chwilio am artistiaid ym Mhrydain sy’n rhan o greu ac arbrofi gyda pherfformiadau, ysgrifennu, sain, ffilm a fideo, dawns, theatr, neu unrhyw gyfrwng byw arall.
Rydyn ni’n awyddus i glywed gan artistiaid sydd am gymryd rhan mewn trafodaethau am eu harfer mewn amgylchedd cefnogol a chymdeithasol, sydd am rannu syniadau, ehangu dealltwriaeth a myfyrio ynghylch profiadau yn ystod yr ŵyl.
Rydyn ni'n croesawu cynigion gan unigolion a grwpiau sy'n cael eu cyffroi gan y syniad o arbrofi a rhai sy'n cymryd risgiau.
Mae’n bosib y byddwch chi am weithio mewn ffordd newydd gyda’r ŵyl a’i chyd-destun ehangach, boed hynny’n fyw, ar-lein, drwy brint, radio neu ddull darlledu arall. Os oes gennych syniad yr hoffech roi cynnig arno, darn o waith wedi’i wireddu’n llawn yr hoffech ei ddangos am y tro cyntaf, neu berfformiad rydych chi wedi’i ddangos o’r blaen yr hoffech gyfle i’w gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd, hoffen ni glywed ganddoch chi.
Eleni, rydyn ni’n bwriadu cyflwyno’r ŵyl ar ffurf hybrid mewn ymateb i anghenion ein hartistiaid a’n cynulleidfaoedd, ac felly byddwn ni’n ystyried gwaith sydd un ai’n addas ar gyfer perfformiad byw ar y safle, neu drwy ddull digidol arall.
BETH FYDDWCH CHI'N EI GAEL
YMGEISIO
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch y canlynol i festival@chapter.org:
Os byddwch yn cyflwyno cais drwy fideo neu nodyn sain, bydd angen i ni allu cael mynediad atynt drwy lwyfan sydd wedi’i ddiogelu â chyfrinair, fel Vimeo. Ni fydd ansawdd gweledol na sgiliau camera a golygu yn cael eu hystyried ar gyfer ceisiadau ar ffilm.
DYDDIAD CAU: 17:00 dydd Llun 5 Gorffennaf 2021.
DEWIS
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid sydd wedi’u tangynrychioli yn y sector ar hyn o bryd yn arbennig. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, artistiaid Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, ymarferwyr Anabl, B/byddar ac sydd â niwrowahaniaeth, pobl sy’n arddel hunaniaeth LHDTQRhA+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Bydd ein panel penderfynu yn cynnwys demograffeg amrywiol o ran profiadau byw, ac yn cynnwys staff rhaglen Chapter ac ymarferwyr/curaduron annibynnol.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu’r wybodaeth yma mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost i festival@chapter.org
Os hoffech drafodaeth bellach am y broses ymgeisio, bydd Catherine Angle ar gael am slotiau 15 munud i ateb cwestiynau ar 16, 23 a 30 Mehefin. Anfonwch e-bost i festival@chapter.org i gofrestru eich diddordeb.
Conversations