UCHAFBWYNTIAU CHWEFROR –
DIGWYDDIADAU O GARTREF
WATCH-AFRICA CYMRU: Gŵyl Ffilmiau Dod ag Affrica i Gymru | 19 - 28 Chwefror
Bellach yn ei nawfed blwyddyn, mae gŵyl ffilmiau WATCH-AFRICA CYMRU yn cynnig profiad Affricanaidd unigryw, ac eleni byddwch yn gallu ei mwynhau o'ch cartref clud. Bydd yn arddangos 10 ffilm, sesiynau holi ac ateb byw, a gweithdai ar themâu Hunaniaeth, Comedi, Llên Gwerin, Cerddoriaeth, a mwy. Mae modd prynu pob ffilm a'u gwylio ar Chwaraewr Chapter. Tocynnau nawr ar werth...
UCHAFBWYNTIAU'R ŴYL...
The Bronze Men of Cameroon | 19 Chwefror, 6pm
Wend Kuuni (God's Gift) | 22 Chwefror, 6pm
This is Not a Burial, It's a Resurrection | 25 Chwefror 6pm
Buganda Royal Music Revival | 28 Chwefror, 1.45pm
ARTES MUNDI 9: LIGHTBOX: Carrie Mae Weems
o 1 Chwefror ymlaen
Rydyn ni'n llawn cyffro o gael bod yn rhan o raglen Artes Mundi eleni, ac rydyn ni wrthi'n brysur yn gweithio y tu ôl i'r llen i baratoi'r arddangosfa ar gyfer pan allwn ni ailagor ein drysau. Yn y cyfamser, rydyn ni'n gosod gwaith celf newydd gan Carrie Mae Weems ar flaen ein hadeilad. Mae Carrie wedi trawsosod gweithiau byrddau poster mawr o'i hymgyrch celf gyhoeddus ddiweddar sy'n parhau, RESIST COVID TAKE 6! Mae'r gwaith yma'n canolbwyntio ar y pandemig byd-eang sy'n dal i effeithio arnon ni i gyd, a'i effaith ar bobl groenliw yn benodol.
DANGOSIADAU FFILM RHITHIOL
MLK/FBI (12) | Ar gael nawr
MLK/FBI yw'r ffilm gyntaf i ddatgelu faint roedd yr FBI yn cadw goruchwyliaeth ac yn aflonyddu ar Dr Martin Luther King, Jr. "Golwg diddorol ar y driniaeth y profodd un o fawrion hanes" Total Film ★★★★
ASSASSINS (12) | Ar gael nawr
Hanes y ddwy fenyw a gafodd eu barnu'n euog am ladd hanner brawd Kim Jong-un. "Rhybudd iasol am wyliadwriaeth ddemocrataidd" Empire
AWAY (U) | Ar gael nawr
Mae AWAY yn dilyn hanes bachgen yn teithio ar draws ynys ar feic modur, yn ceisio dianc oddi wrth ysbryd tywyll a dychwelyd adre. Ar y ffordd, mae'n gwneud cyfres o gysylltiadau gyda gwahanol anifeiliaid, ac mae'n ystyried y ffyrdd posib y cyrhaeddodd yr ynys. Mae AWAY, sy'n rhannol-freuddwyd rhannol-realiti, yn archwilio ein hangen cyffredin i ddod o hyd i gysylltiad. “Animeiddiad mud, swreal a llesmeiriol” The Guardian
Digwyddiadau eraill mis Chwefror...
Reframed Film: Sesiynau cyd-wylio a holi ac ateb | Nosweithiau Mercher, 7pm
Cyd-wyliwch gyda Reframed Film ar Twitter o 7pm ymlaen. Ymunwch â thrafodaethau holi ac ateb ar Zoom. Ar gyfer y trafodaethau holi ac ateb, bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb ac archebu tocyn am ddim.
Darlith Cymdeithas y Celfyddydau Caerdydd: Anna Moszynska - Cerflunwaith cyfoes yn y gofod cyhoeddus
11 Chwefror, 2pm
Comedi Robin Morgan a'i Ffrindiau: Jenny Collier, Rachel Fairburn, Sarah Keyworth and Riki Msindo...
19 Chwefror, 8pm
Chapter Moviemaker x Cables & Cameras: The Bridge / Y Bont | from 12 Feb
Cywaith rhwng gwneuthurwyr ffilm croenliw a phobl greadigol o Cymru, Bryste a Birmingham
Digwyddiadau gydag aelodau Canolfan Ffilm Cymru
Wicked Wales: Cystadleuaeth Ffilm Ffôn Clyfar
Os ydych chi rhwng 15 a 25 oed, a bod gennych ddiddordeb mewn creu eich ffilmiau eich hun, ymunwch â chystadleuaeth ffilm ffôn clyfar newydd Wicked Wales i gael cyfle i ddangos eich ffilm chi yn eu gŵyl ffilmiau ryngwladol eleni!
Being Me: Gŵyl Ffilmiau WOW a Mencap Ceredigion
Ymunwch â phrosiect Fi Fy Hun i greu hunan-bortread wedi'i animeiddio drwy Zoom gyda Gŵyl Ffilmiau WOW a Chlwb Animeiddio Mencap Ceredigion. Mae croeso i bawb, ble bynnag yng Nghymru ydych chi!
Loteri Cymru: Partner Elusen Dewis y Bobl
Rydyn ni wedi cyrraedd y rhestr fer i fod yn Bartner Elusen Dewis y Bobl gyda Loteri Cymru! Er mwyn i ni fod â chyfle i ennill rhodd o £5,000 a chefnogaeth barhaus drwy gydol y flwyddyn, dangoswch ychydig o gariad i ni drwy bleidleisio isod. Bydd pleidleisio'n cau ar 21 Chwefror. Diolch.
Diolch am eich cefnogaeth
Mae'r cyfnod clo yn dal i greu heriau ariannol hirdymor sylweddol i ni, ond gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn fynd i'r afael â'r rhain, buddsoddi mwy yn ein cymuned greadigol o weithwyr llawrydd hyfryd, a gweithio tuag at ddiogelu ein dyfodol. Os ydych chi mewn sefyllfa i wneud hynny, gallwch roi ar-lein drwy easydonate.org/CHAPTER, neu rhowch £10 drwy anfon neges destun yn dweud CHAPTER i 70191. Diolch.
Conversations