Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

 

Ffilmiau - 5-18 Awst 2022 Wedi ei bostio ar 03 Awst 2022

Yr wythnos yma bydd agoriad y sioe newydd ragorol Call the Waves, arddangosfa grŵp cydweithredol, yn archwilio gysylltiadau agos rhyng-gysylltiedig gyda dŵr. Ni methu aros i croesawu chi i'r prosiect anhygoel yma, wedi'u gyd-guradu gan SWAY a QANAT

Ochr yn ochr â gwaith artistiaid o bob rhan o’r byd, byddwn ni’n cyflwyno tymor o ffilmiau wedi’i ysbrydoli gan themâu’r sioe, gan gynnwys cyfle arall i weld y syfrdanol Aquarela, sy'n edrych ar yr argyfwng hinsawdd o copa'r byd a’r ffilm ddogfen newydd Fadia’s Tree, sy'n dal y gobaith diysgog o ddychwelyd o alltudiaeth.

Mae mwy o waith artistig i’w weld gan Ai Weiwei, Alan Bennett, Grayson Perry and Robert MacFarlane yn y ffilm ddogfen deimladwy Eric Ravilious: Drawn to War.

Y mis yma rydyn ni’n parhau i ddathlu’r gwneuthurwr ffilm chwedlonol Wim Wenders a bydd doniau o Gymru i’w gweld yn stori iasoer Gwledd, a fydd yn cael ei chyflwyno gyda sesiwn holi ac ateb arbennig gan BAFTA.

Ond gyda gwyliau’r haf a’r ysgolion ar gau, mae digon o ffilmiau yma i gadw’r teulu’n brysur – gan gynnwys ein Ffilmiau i’r Teulu am ddim bob dydd Mawrth! 

Conversations