Mae tymor y gwobrau wedi dechrau ac rydyn ni’n erfyn arnoch chi i ddod i wylio’r ffilm annwyl A Bunch of Amateurs, yr hudol Aftersun, a drama-ddogfen newydd y gwneuthurwr ffilm o Iran sydd wedi’i garcharu, Jafar Panahi, No Bears.
Mae ganddon ni wledd o ddangosiadau arbennig o wyliau ffilm i chi dros y pythefnos nesaf hefyd. Mae Doc'n Roll yn cyflwyno ffilmiau diddorol am gerddorion, o’ch arwyr i gerddorion nad ydych chi wedi’u darganfod eto, mae Watch Africa Cymru ’nôl i ddod â’r gorau o’r cyfandir i Gaerdydd.
Mae’r Ŵyl Anorffenedig yn cyflwyno trafodaeth gyda gwneuthurwyr ffilm annibynnol benywaidd o bob rhan o’r byd, ac yn olaf, byddwn ni’n cloi tymor y BFI, Mewn Breuddwydion mae Angenfilod, gyda danteithion fampiraidd gan ein cyfeillion o Ŵyl Arswyd Abertoir a dangosiad pen-blwydd o ymgais syfrdanol Gary Oldman ar Dracula.
Conversations