Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

 

Ffilmiau 1-14 Ebrill Wedi ei bostio ar 01 Ebr 2022

Films 1-14 April

Mae’n teimlo fel pe bai’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd, ac mae ganddon ni ddigwyddiadau a gwyliau i ddod â’r bwrlwm yn ôl i Chapter!

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn ôl gyda ni gyda phob math o ddanteithion ar y gweill a rhaglen lawn dop.

Ar ôl cael gwobrau ledled y byd, mae The Power of the Dog yn dychwelyd.

Yn dilyn Gŵyl Ffilmiau Glasgow fis diwethaf, mae stori afaelgar The Outfit (gyda Mark Rylance yn serennu) a’r ffilm gyffro Murina yn ôl i syfrdanu cynulleidfaoedd.

I unrhyw un sy’n hoff o ffilmiau, mae A Night of Knowing Nothing yn ffilm ddogfen arbrofol hyfryd o India am fyfyrwyr ffilm yn ceisio dod o hyd i’r ffordd mewn cymdeithas ormesol.

Lawrllwytho canllaw ffilm

Conversations