Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

 

Ffilmiau 10-24 Rhagfyr Wedi ei bostio ar 10 Rhag 2021

Films 10-24 December

Dros gyfnod yr ŵyl eleni mae ganddon ni wledd aeafol arswydus ac eiliadau twymgalon ar y sgrin fawr. Byddwn yn dathlu’r chwiorydd Williams a stori ysbrydoledig eu tad gyda King Richard, a rhieni anghonfensiynol eraill yn yr hyfryd C’mon C’mon, ffilm gyffro seicolegol The Lost Daughter, a’r stori dylwyth teg o Wlad yr Ia, Lamb.

Yn rhoi mwy o hunllefau i ni cyn y Nadolig, bydd Gŵyl Fractured Visions, lle bydd trafodaeth gyda’r arwr arswyd o Gymru, Stephen Volk.

Wrth i ni agosáu at y gwyliau, gallwch edrych ymlaen at rai clasuron gyda When Harry Met Sally, y rom-com Nadoligaidd wreiddiol The Shop Around the Corner, ac ar ôl i fil o bobl ymuno â’n digwyddiad cyd-wylio ar-lein yn 2020, allwn ni ddim aros i brofi It’s a Wonderful Life gyda’n gilydd unwaith eto yn y sinema.

Lawrllwytho canllaw ffilm

Conversations