Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

 

Ffilmaiu 18-31 Mawrth Wedi ei bostio ar 18 Maw 2022

Films 18-31 March

Mae ein calonnau gyda’n ffrindiau yn Wcráin. Gan weithio gyda safleoedd ledled Prydain a 606 Distribution, rydyn ni’n cyflwyno rhagddangosiad o Olga i godi arian i’r rhai sy’n dioddef trasiedi rhyfel.

Mae Hive yn ffilm hyfryd o Kosovo sy’n edrych ar stori wir am fenywod yn dod ynghyd i gefnogi eu cymuned pan oedd eu bywydau wedi’u dinistrio gan ryfel.

Daw rhywfaint o obaith am gydweithio rhyngwladol a gwneud ffrindiau ar draws rhwystrau ieithyddol ar ffurf cywaith cerddorol Gareth Bonello a Wanphrang Diengdoh ar gyfer Lorni – The Flaneur.

Mae hefyd gwledd arbennig arall gan ddoniau Cymru y mis yma gyda Phantom of the Open gan Craig Roberts a chyfle i weld Gathering: Women (of Colour) and Nature gan Durre Shahwar.

Yn olaf, edrychwn tua’r dyfodol gydag Asif Kapadia a’r profiad realiti rhithwir anhygoel Laika.

Llawrlwytho canllaw ffilm

Conversations