Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Croeso i Ganolfan Gelfyddydau Chapter. Mae ganddon ni lawer o ddigwyddiadau, ffilmiau, perfformiadau, ac arddangosfeydd ar eich cyfer chi yn ystod y misoedd nesaf. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael diweddariadau, newyddion a rhestriadau sioeau yn syth i’ch mewnflwch.

 

Dangosiadau ffilm 3-16 Medi Wedi ei bostio ar 03 Medi 2021

Films showing 3-16 September

Wrth i’r Haf o Gerddoriaeth dynnu tua’i therfyn, rydyn ni’n troi at gerddoriaeth fyw yr hydref yma, gyda Paris Blues, yn dathlu’r Oes Jazz. Dewch i weld ffilm gerdd newydd gan y brodyr Sparks hynod a hyfryd yn Annette, neu’r ffilm gofiannol newydd Queen of Soul, sef ffilm glasurol o Jamaica sydd wedi’i hailddarganfod, No Place Like Home.

Bydd Jack Nicholson yn bianydd clasurol yn ei rôl orau erioed yn ôl rhai yn Five Easy Pieces, ac mae ganddon ni wledd operatig arbennig iawn gan Ŵyl Bro Morgannwg gyda Bhekizizwe.

Rydyn ni hefyd yn ail-groesawu’r ffilm o Gymru, Nuclear (a ohiriwyd ers mis Rhagfyr 2020), gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r gwneuthurwr ffilm Catherine Lindstrum.

Llawrlwytho canllaw ffilm

Conversations