Bydd Gŵyl Cymru yn dechrau ar 19 Tachwedd, a’i nod yw uno a hyrwyddo’r cyfoeth o gelfyddyd, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer taith hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd – mewn lleoliadau ar draws y wlad a’r tu hwnt. Drwy greu gofodau a chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiant tîm cenedlaethol y dynion, mae Gŵyl Cymru hefyd yn gobeithio cyflwyno celfyddyd, iaith a diwylliant Cymru i gynulleidfaoedd newydd – gan sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022.
Ymunwch â ni yn y Stiwdio Seligman i wylio'r gêm ar ein sgrin fawr! Does dim angen archebu tocyn neu le, gyd chi angen gwneud yw troi fynnu a mwynhau.
Ni hefyd yn dangos holl gemau Grŵp b ar y dydd.
Bydd bar, bwyd, the a choffi ar gael yn y Stiwdio cyn, yn ystod ac ar ôl y gemau! Mae'r Caffi Bar ar agor fel arfer yn y prif adeilad yn gwasanaethu'r fwydlen a dewislen coctel arferol!
Lloegr vs Iran
Llun 21 Tachwedd @ 1pm
Stiwdio Seligman
21 Tachwedd @ 7pm
Stiwdio Seligman
Digwyddiad Facebook: World Cup screening: Cymru vs USA | Facebook
Gwener 25 Tachwedd @ 10yb
Stiwdio Seligman
Digwyddiad Facebook: Gŵyl Cymru Festival at Chapter | Facebook
Lloegr vs UDA
Gwener 25 Tachwedd @ 7pm
Stiwdio Seligman
29 Tachwedd @ 7pm
Stiwdio Seligman
Digwyddiad Facebook: World Cup screening: Cymru vs England | Facebook
Gŵyl Cymru lightbox installation by Phil Morgan
Tachwedd 2022 – Ionawr 2023
Rydyn ni’n falch o bartneru gyda Gŵyl Cymru i gyflwyno gwaith celf newydd gan yr artist lleol Phil Morgan.
Comisiynwyd y gwaith fel rhan o’r ŵyl, sy’n dathlu llwyddiant hanesyddol Cymru yn cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd, a bydd yr eicon pwerus yma o barch a goddefgarwch yn ei le tan ddiwedd mis Ionawr 2023.
Eleni, cynhelir cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar, gwlad lle mae perthnasau o’r un rhyw yn drosedd. Nod gwaith Phil yw cynnig symbol trawiadol i gyd-sefyll â chymunedau LHDTCRhA+, gartref a thramor, gyda lliwiau’r enfys yng nghanol arwydd cyfarwydd, sef dwylo Gareth Bale mewn siâp calon.
Mae’r gwaith celf yn rhan o raglen o ddigwyddiadau a gweithgarwch yn Chapter yn ystod yr ŵyl. I gael rhagor o wybodaeth am ein Digwyddiadau, ewch i www.chapter.org neu gofynnwch wrth ein Desg Wybodaeth.
Printhaus argraffu eich crysiau t dy hunain!
Sadwrn 19 & Sul 20 Tachwedd @ 10am-4pm
AM DDIM i bobl ifanc dan 18 a £15 am oedolion - does dim angen archebu le.
Caffi Bar
Kitsch & Sync Collective: The Teds
Llun 21 Tachwedd @ 12pm, 4pm & 6pm.
AM DDIM - does dim angen archebu lle
Courtyard & Caffi Bar
‘Gwyliwch allan, mae’r Teds yma ac yn barod am ROC, RÔL ac i YMLADD YN FFÔL...’
Perfformiad theatr ddawns gyfoes wedi’i ysbrydoli gan gangiau’r pumdegau a’u hagweddau gwrthryfelgar. Mae gang o bobl ifanc mewn siwtiau a sgidiau crand yn archwilio golwg androgynaidd, ac yn adeiladu cymeriadau sy’n arddangos corfforoldeb ‘gwrywaidd’ a choreograffi ymylol. Maen nhw’n cymysgu gwaith troed dawnsio Roc a Rôl a swing, cymeriadu a theatr gorfforol, gan drawsnewid yn eiconau roc a chreu hysteria a gwylltineb ymhlith eu cefnogwyr brwd!... dim llofnodion os gwelwch yn dda!
Friday 25 November @ 8pm, Mawrth 29 Tachwedd @ 4:05pm
£6 / £4
Cinema
Stori enwog Brian Clough a’i 44 diwrnod fel rheolwr Leeds Unedig.
Free Family Film: Bend It Like Beckham
Saturday 26 November @ 11:30am
Cinema
AM DDIM ond mae angen archebu tocyn
Mae Jess yn plygu’r rheolau i gyrraedd ei gôl, fel chwaraewr pêl-droed.
Sadwrn 26 Tachwedd
Sinema
£6 / £4
Ffilm ddogfen am swyddogion pêl-droed amrywiol, arwyr di-glod y bêl gron.
Good News From The Future
Sul 27 Tachwedd @ 12-12:30pm
Caffi Bar
AM DDIM - does dim angen archebu lle
Sul 27 Tachwedd @ 1:45pm
£6 / £4
Sinema
Saith person yn siarad am eu hangerdd tuag at bêl-droed.
Pamoja Disco
Sul 27 Tachwedd @ 6pm
AM DDIM - does dim angen archebu lle
Caffi Bar
Only Boys Aloud: Pop up choir
Mawrth 29 Tachwedd @ 6pm
AM DDIM - does dim angen archebu lle
Caffi Bar
Mercher 30 Tachwedd @ 4:30pm
£6 / £4
Sinema
Ffilm ddogfen am swyddogion pêl-droed amrywiol, arwyr di-glod y bêl gron.
Conversations