Y mis yma, byddwn ni’n dechrau gyda’n tymor llawen Haf o Gerddoriaeth! Rydyn ni i gyd yn gweld eisiau cerddoriaeth fyw, ac felly rydyn ni’n cynnig profiadau ardderchog y gallwch eu mwynhau yn syth o’ch sedd sinema! Nawr ar werth mae Don't Go Gentle: A Film About IDLES, sef ffilm ddogfen y band o Gasnewydd a Bryste, IDLES, gyda sesiwn holi ac ateb fyw (ie, wyneb yn wyneb!) ar 7 Gorffennaf, ac In The Heights, sioe gerdd fywiog wedi’i lleoli ar strydoedd Efrog Newydd.
Ymhlith y ffilmiau eraill mae Another Round, sy’n sôn am ffrindiau canol oed sy’n dechrau arbrawf i weld a fyddai meddwi’n barhaus yn eu gwneud nhw’n hapus, a The Welshman, ffilm ddogfen #GwnaethpwydyngNghymru am Owain Williams a chymuned Capel Celyn.
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno perfformiadau dynamig sy’n addas i’r teulu yn ein maes parcio cefn, a bydd modd profi rhediad digidol Theatr Clwyd o For The Grace of You Go I, sef comedi dywyll gan Alan Harris, yn rhithwir o’ch cartref clyd.
Dewch i weld gwaith newydd gan yr artist Holly Davey, gan gynnwys darlleniad sgript a digwyddiad 'Cwrdd â’r Artist' (gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain) ar 24 Gorffennaf. Ar Chwaraewr Chapter mae cyfres ‘Wrth y Bwrdd’ Artes Mundi, sef sgyrsiau gyda’r artistiaid sydd ar y rhestr fer (gydag Is-deitlau Meddal).
FFILM
THE WELSHMAN + Sesiwn holi ac ateb | Sadwrn 17 Gorffennaf
Ffilm ddogfen am Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru a benderfynodd weithredu pan ddaeth cronfa ddŵr i beryglu ei gymuned wledig Gymraeg. Ffilm amserol gan lais newydd a chyffrous ym myd sinema Cymru, a sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Lindsay Walker.
Rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau
HAF O GERDDORIAETH
DON'T GO GENTLE: A FILM ABOUT IDLES + Sesiwn holi ac ateb | 2-7 Gorffennaf
Ffilm ddogfen sy’n edrych ar benderfynrwydd a chyfeillgarwch y band IDLES wrth iddyn nhw frwydro am le i’w cerddoriaeth mewn amgylchedd cymdeithasol-wleidyddol rhanedig. Gyda sesiwn holi ac ateb ar 7 Gorffennaf.
IN THE HEIGHTS | 9-15 Gorffennaf
Y tu allan i arhosfan y trên tanddaearol ar Stryd 181 yn Efrog Newydd, mae’r perchennog bodega carismataidd Usnavi yn cynilo pob ceiniog, gan obeithio a chanu am fywyd gwell. Mae caleidosgop o freuddwydion yn dod â’r gymuned glòs a lliwgar yma ynghyd yn y ffilm gerdd fywiog a real yma.
To see all films showing in our cinemas and from home, click here. For details of what to expect when attending a screening, visit our website.
PERFFORMIAD
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno
PERFFORMIAD AWYR AGORED | 6 & 7* Awst
*BSL gan Claire Anderson
Cyfle i ailddarganfod mwynhad dawns byw gyda pherfformiadau newydd sbon gan y Cwmni Dawns Cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth & archebu tocynnau
Theatr Clwyd yn cyflwyno
FOR THE GRACE OF YOU I GO | 1-14 Gorffennaf
Profwch gomedi dywyll glodwiw Alan Harris yn y rhediad cyfyngedig digidol yma, a ffilmiwyd yn fyw o flaen cynulleidfa stiwdio yn Theatr Clwyd. Er mwyn prynu tocyn drwy Chapter, dilynwch y ddolen uniongyrchol ar ein gwefan.
ART
Arddangosfa, Stiwdio Seligman
HOLLY DAVEY
BSL gan Anthony Evan ar 24 Gorffennaf
Ar ôl ei chyfnod fel Cymrawd Creadigol yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, mae’r artist preswyl Holly Davey yn rhannu ei gwaith newydd sydd wedi’i ysbrydoli gan gasgliad ffotograffig Agnes a Dora Bulwer, a gwaith y cynllunydd setiau Dante Ferretti yn Stiwdios Cinecitta.
Dewch i weld ei gwaith stiwdio newydd! Ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf bydd darlleniad sgript a digwyddiad ‘Cwrdd â’r Artist’ (gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain).
ARTES MUNDI: WRTH Y BWRDD | Ar gael nawr
Capsiynau ar gael
Mae cyfres ‘Wrth y Bwrdd’ Artes Mundi nawr ar gael i’w gwylio ar Chwaraewr Chapter. Sgyrsiau gyda’r artistiaid sydd ar restr fer Artes Mundi 9, Dineo Seshee Bopape, Carrie Mae Weems, Beatriz Santiago Muñoz, Firelei Báez, Meiro Koizumi a Prabhakar Pachpute. Mae pob sgwrs yn cynnwys Is-deitlau Meddal.
Galwad am artistiaid
EXPERIMENTICA | Dyddiad cau 5 Gorffennaf
Os ydych chi’n artist sy’n gweithio ym maes perfformio arbrofol, ysgrifennu, sain, ffilm a fideo, sain, neu theatr, yna hoffen ni glywed ganddoch chi! Rydyn ni'n croesawu cynigion gan unigolion a grwpiau sy'n cael eu cyffroi gan y syniad o arbrofi a rhai sy'n cymryd risgiau.
CYSTADLEUAETH GWAITH CELF PLANT | Dyddiad cau 16 Gorffennaf
Gwahoddir pobl ifanc rhwng 5 ac 16 oed i wneud cais am ein cyfle celf diweddaraf. Cyflwynwch lun, paentiad, neu ludwaith, ac efallai y byddwn ni’n dewis eich gwaith i gael ei arddangos ar flaen yr adeilad i bawb ei weld! Gwnewch gais gyda’ch ysgol, neu gall unigolion hefyd wneud cais a’i anfon yn uniongyrchol aton ni.
Bob dydd Llun a dydd Mawrth, rydyn ni bellach yn cynnig bwydlen frecwast ysgafnach, sy’n cynnwys croissants wedi’u llenwi, gydag ystod o lenwadau melys a sawrus! (Mae ein brecwast wedi’i goginio ar gael o ddydd Mercher tan ddydd Sul).
I weld sut i archebu bwrdd, cliciwch yma.
Conversations