GWYLIAU
GŴYL UNDOD HIJINX** | 20 & 21 Mehefin
**Disgrifiadau Sain, Capsiynau a Iaith Arwyddion Prydain
Rydyn ni wrth ein boddau o gael bod yn rhan o Ŵyl Undod Hijinx eleni. Gyda chymysgedd o ffilmiau nodwedd, ffilmiau byrion, dangosiadau cyntaf, trafodaethau panel a mwy, mae Undod yn arddangos y gwaith ffilm cynhwysol gorau o bob rhan o’r byd.
SUNDANCE LLUNDAIN | 10-12 Mehefin
Mae Taith Sundance Llundain yn rhannu uchafbwyntiau’r ŵyl gyda Good Luck To You, Leo Grande (Emma Thompson, Daryl McCormack), Free Chol Soo Lee ac A Love Song.
Dysgu rhagor ac archebu tocynnau
THE BOB'S BURGERS MOVIE | Tan 2 Mehefin
Gyda sesiwn holi ac ateb wed'i recordio gyda Simon Chong, a symudodd o Gymru i LA i weithio ar ei hoff raglen deledu!
CHAPTER MOVIEMAKER | 6 Mehefin
Rydyn ni’n dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau o Gymru gyda’r Wobr Ffilm Gwiar eleni.
MEN | 3-9 Mehefin
Gan y gwneuthurwr ffilm gweledigaethol Alex Garland (Ex Machina, Annihilation), mae Men yn ffilm arswyd werin benfeddwol.
JOY LABINJO: ODE TO OLAUDAH EQUIANO | Ar agor nawr
Mae gennych ychydig o wythnosau ar ôl i weld gwaith hyfryd a phryfoclyd Joy Labinjo. Rydyn ni hefyd yn falch o fod yn gweithio ar daith gyda disgrifiadau sain, arddangosfa rithwir, a chyhoeddiad arbennig – i ddod yn fuan!
Marchnad STWFF | 18 Mehefin, 10am-5pm
Diwrnod epig yn llawn creadigrwydd a nwyddau ffantastig wedi’u creu â llaw. Gyda darlunwyr, gwneuthurwyr, artistiaid a dylunwyr annibynnol yn gwerthu eu nwyddau, ochr yn ochr â gweithgareddau creadigol ac arddangosiadau printio byw. Does dim angen archebu.
SNATCHED* | Nos Fercher 29 Mehefin, 7.30pm
*Perfformiad gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a sesiwn holi ac ateb
Yn 2018, cafodd cyfrif iCloud yr actores anabl Melissa Johns ei hacio a rhyddhawyd lluniau amhriodol ohoni ar-lein. Mae menyw ifanc anabl â hanes o ddysmorffia corff yn dod i delerau gyda’r ffaith bod ei delwedd wedi dod yn eiddo cyhoeddus. Dyma sioe un-fenyw gyflym a thwymgalon, gyda thrafodaeth banel ar anabledd yn y celfyddydau i ddilyn.
CONFESSIONS OF A COCKNEY TEMPE DANCER | Nos Sadwrn 25 Mehefin, 7.30pm
Rydyn ni i gyd yn cyflwyno wynebau gwahanol i’r byd, ond rhai’n fwy gwahanol nag eraill. Yn y sioe un dyn ddoniol a gweledol syfrdanol yma, mae Shane Shambhu yn datgelu ei fywyd cyfrinachol yn dysgu dawns glasurol Indiaidd wrth iddo dyfu i fyny ym mhair diwylliannol Dwyrain Llundain. “Gwych, doniol, twymgalon ac ysbrydoledig.” British Theatre Guide.
SINFONIA CYMRU: CURATE - THAT'S NOT VERY LADYLIKE | 12 Mehefin, 4pm
“Dydy hynny ddim yn fenywaidd iawn!” - sylw gan aelod o’r gynulleidfa ar ôl gweld y feiolinydd Katie Foster yn chwibanu. Cafodd ei hysbrydoli gan hyn i archwilio beth mae bod yn ‘fenywaidd’ yn ei olygu yn y byd cerddorol.
CLWB MUSIC / CLWB IFOR BACH: ALICE LOW | 4 Mehefin, 7.30pm
Sioe gyntaf Alice Low fel prif act. Peidiwch â cholli ei pherfformiad avant-garde, ei hegni grymus, a’i geiriau emosiynol sydd eisoes wedi mynd â hi i frig rhestr ‘i’w gwylio’ pawb.
NEWSOUNDWALES: PENWYTHNOS DAVID BOWIE | 17-19 Mehefin
Pedwar digwyddiad dros benwythnos yn dathlu bywyd David Bowie gyda sgyrsiau a cherddoriaeth. Yn cynnwys perfformiad gan Under Pressure, a’r gwestai arbennig Dana Gillsepie.
MWY...
DIM OND DAWNSIO! | Dydd Sul 5 Mehefin 11yb a nos Wener 24 Mehefin 7pm
Awydd gadael fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Gofod newydd ar gyfer dawns ecstatig yw Dim Ond Dawnsio! Mae’n lle gwych i leddfu straen ac i’ch annog i adael fynd, i weld ble mae’r gerddoriaeth yn mynd â chi! Ymarfer symud rhydd cynhwysol a grymusol.
Conversations