Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
 

Tymor Iechyd Meddwl a Lles 2020 Wedi ei bostio ar 05 Maw 2020

Mental Health & Wellbeing Season 2020

Yn ystod gwanwyn 2020, mae arddangosfa nodwedd Chapter, From This World, To That Which Is To Come, gan Mel Brimfield, sy’n canolbwyntio ar seicosis a’i driniaeth, yn ysbrydoli tymor o berfformiadau a ffilmiau sy’n cysylltu iechyd meddwl â chreadigrwydd.

Mae’r ffilmiau ym mis Mawrth sy’n archwilio’r thema yma yn cynnwys Annihilation, ffilm ffuglen wyddonol rithiol gyda Natalie Portman yn serennu, rhagddangosiad arbennig i Gymru (gyda sesiwn Holi ac Ateb) o’r ffilm ddogfen Home, sy’n dilyn taith drawmatig yr anturiaethwraig Sarah Outen o gwmpas y byd ar feic, caiac a chwch a System Crasher - Mae Benni, merch naw mlwydd oed drafferthus a gwyllt, yn cael ei gwahardd o un cartref maeth ar ôl y llall oherwydd ei dicter afreolus.

Hefyd yn y rhaglen mae’r ymarferydd theatre Gilly Adams yn archwilio ei hunan-arall, Mrs Blister, wrth iddi adrodd hanes taith ddeugain niwrnod ar draws gogledd Sbaen.

Bydd cyfle i gymryd rhan a dysgu rhywbeth newydd hefyd - cadwch lygad am Weithdai Lles a fydd yn dod yn fuan...

Mwy o wybodaeth & Tocynnau

undefinedLlun: Mel Brimfield - Xenobath

Conversations