Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
 

Uchafbwyntiau Tachwedd 2022 Wedi ei bostio ar 28 Hyd 2022

Gŵyl Anorffenedig: Gwneuthurwyr Ffilm Benywaidd yn y Broses

 

Mae Tachwedd llawn o gynigion am yr holl deulu, gwyliwch Gymru a gemau Grŵp B Cwpan y Byd yn ein Stiwdio, a llawer mwy o gyffro trwy gydol ein rhaglen! 

Gennym ni llawer o gynigion hanner-tymor, yn cynnwys Ffilmiau Teulu Am Ddim fel Monster House a The Witches. Ni’n rhedeg gweithdai galw heibio am ddim i blant, yn y Cyntedd Sinema ar 1 a 3 o Dachwedd. Mae cinio-i-fynd am ddim i blant dan 18, ar gael rhwng 12 a 2yp trwy gydol yr wythnos! 

Yn ein sinema mae’r tymor ŵyliau yn parhau hefo BFI: Mewn Breuddwydion Mae Angenfilod sy’n arddangos arswyd Cymry a chyfarwyddwyr Cymraes efo’r dangosiad arbennig o Prevenge + Kier-La Jenisse mewn trafodaeth â Alice Lowe am The House of Psychotic Women. Ragor o ŵyliau ffilm fel Doc'N Roll a Gŵyl Anorffenedig i ddod hefyd.

Rydym yn croesawu amrywiaeth o berfformiadau yn ein theatr, o ffefryn y teulu - Theatr Iolo: Owl at Home, yn cynnwys perfformiad Disgrifiadau Sain ar Fercher 2 Tachwedd am 10yb a pherfformiad Ymlaciedig ar Iau 3 Tachwedd am 10yb. Mae Don’t Play With Dead Things yn ôl efo ei brofiad ar-lein comedi-arswyd unigryw, a’r perfformiad How My Light is Spent wedi’i aildrefnu i'r 18 & 19 Tachwedd.

Dyma eich cyfle olaf i ymweld â Call the Waves yn ein horiel, sy’n cau ar 20 Tachwedd. Mae’r oriel ar gau yn ystod y gosodiad o ein harddangosfa nesaf o Leo Robinson, artist wedi'i sefydlu Glasgow. Mae’r Infinity Card ar agor o 10 Rhagfyr neu ymunwch a ni am ddangosiad arbennig ar Wener 9 Rhagfyr rhwng 6 a 8yh. 

Os collasoch chi ein penwythnos lansiad coctel, paid â phoeni! Mae ein coctels a moctels ar gael pob dydd, hefo 2 am 1 bob Iau o 5yh! Diolch enfawr i bawb a wnaeth y lansiad yn arbennig mis diwethaf, byddent yn weld chi’n fuan!

 

Canolfan Ffilm Cymru

A Dark Song + Cyflwyniad i Hud Modern yng Nghymru

Gyda chefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru (CFFC), mae sinemâu ar hyd ledled Cymru yn aill-ddarganfod hud oesol Cymru ar yr sgrin fawr y gaeaf hon, gan ddod â swynion, ysbrydion a llên gwerin i gynulleidfaoedd Cymreig, trwy dymor o ffilmiau a digwyddiadau am ddewiniaeth a hud Gymreig. Fydd gweithgareddau yn cael ei lawnsio yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio ym Mangor ar yr 28ain o Hydref, lle bydd eu penwythnos Sabbath Y Gwrachod yn croesawu Mari Elen Jones o Gwrachod Heddiw, podlediad arobryn sy’n dathlu merched Cymru a’u cysylltiadau â dewiniaeth a hud.

Dros y penwythnos, bydd gwesteion hefyd yn cynnwys cyfarwyddwr, Ffion Pritchard, y ffilm fer Gymraeg newydd Annwn, am wrach ifanc dalentog a darlunydd Efa Lois sy’n arbenigo mewn llên gwerin, blodau a gwrachod Cymreig.

Bydd y podlediad fideo byw, Cymraeg, a fydd yn teithio i sinemâu Cymru, yn archwilio cymeriad y Wrach mewn sinema, hanes dewiniaeth a hud yng Nghymru, ac hadfywiad gwrachod Gymreig fodern. Mae digwyddiadau yn cael eu chynnal yng Ngŵyl Ffilm SeeMôr (Ynys Môn), Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Wicked Cymru (Y Rhyl) ac yma yn Chapter yng Nghaerdydd. Ewch i wefan Canolfan Ffilm Cymru i ddarganfod mwy.

 

Conversations